190417

 

badgebadge

MERCHER 19 EBRILL 2017, 18.30
CYNGHRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD ADRAN 2
Lon Bach
Torf: 90

Amlwch Town

0 - 2

Y Felinheli

Ifan Emyr 20'
Gruff John 70'

 

Yn dilyn canlyniadau siomedig yn erbyn Mynydd Llandegai a Gaerwen, roedd y gem yn Lon Bach yn erbyn Amlwch yn un holl bwysig. Roedd y trip i ben draw Sir Fon hefyd yn gyfle i ymweld a Mynydd Paris yn ei holl ogoniant. Oherwydd y "sightseeing" yn ogystal a native Sir Fon bellach (James Hatton) yn mynd ar goll, roedd rhai ychydig yn hwyr yn cyrraedd.

imageimageO'r diwedd dyma pawb yn cyrraedd (heblaw am IDDN, brysia wella boi!) a pawb yn barod am y gem. Dechreuodd Felin y gem yn gryf gyda symudiad da yn y pum munud gyntaf yn canfod Gruff John yn rhydd yn y cwrt cosbi ond bloc wych gan amddiffynwr Amwlch yn rhwystro Joni. Daeth y gol gyntaf ychydig wedyn gyda Ifan Emyr yn neidio ar gamgymeriad y gol geidwad a procio'r bel i gefn y rhwyd.

1-0.

Felin ar y blaen a'n rheoli'r gem diolch i pwyso'r blaenwyr, gwaith caled ganol cae ac amddiffyn caled gan Fish, Hatton, Ifan Em a Car Wash King Caernarfon Dylan Jones. Neis gweld Connor yn ol yn yr unarddeg cyntaf hefyd, yn chwarae'n wych yn ganol cae.

Hanner Amser 1-0 i Felin

Dechreuodd Amlwch chwarae ychydig yn well yn yr ail hanner ond roedd Felin dal yn gyfforddus. Ond mae 1-0 wastad yn sgor berryg, felly roedd angen gol arall. Daeth yr ail ar ol gwaith da o ganol cae gan Iwan Eds yn rhyddhau Iwan Bonc cyn iddo chwipio'r bel i'r cwrt cosbi. Crymanodd y bel oddi ar droed Dan a canfod Gruff John, a doedd o ddim am fethu. 2-0.

Roedd Amlwch yn pwyso am weddill y gem ond doedd gan Rhys Eds yn y gol ddim llawer i wneud tan i un o chwaraewyr Amlwch daro'r bel o 30 llath. Arbediad y buasai Pedr Gec yn prowd ohoni!
Gyda chwarter awr i fynd daeth Iwan Bonc oddi ar y cae wedi rhedeg drwy'r gem. Aeth Aled Em ar yn ei le yn hapus iawn i ddianc rhag rhechfeydd anioddefol Dylan Bonc ar y fainc! Daeth Nip ymlaen hefyd yn lle Gruff John i gau'r gem.

Canlyniad 2-0 i Felin.

Roedd Felin yn hapus iawn i glywed y chwib olaf ar ol perfformiad llawn calon a cymeriad. Dim ond pedair gem yn weddill y tymor yma, a'r pedair ohonynt adref yn Seilo, gyda'r gyntaf dydd Sadwrn yn erbyn Blaenau. Dewch i gefnogi.

Adroddiad gan Aled Em