general-home

 

badgebadge

SADWRN 31 RHAGFYR 2016, 14.00
CYNGHRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD ADRAN 2
Cae Brenin Sior V
Torf: 50

Llanllyfni

Gary Roberts 86'

1 - 3

Y Felinheli

Callum MacDonald 43'
Connor Japheth 52'
Gruff John 90'

 

Yn dilyn cyfnod erchyll o ganlyniadau. Roedd Felin yn mynd mewn i'r gêm oddi gartref yn erbyn Llanllyfni yn reit desperate am win.

Toedd petha ddim am fod yn hawdd. Gyda dipyn o absenoldebau unwaith eto. Cra dal i nyrsio hangover ers sesh fawreddol y 28ain, Sdal ar ei 17th consecutive day of drinking, Iw Eds wedi'w wahardd, Ffarmwr yn prynnu modrwy dyweddio efo'i bres Brexit, Ifan Em ar ei bererindod IRA, a Mart heb amheuaeth yn neud y mwya o'i benwythnos i ffwrdd, Leeds 3pm = awesome!!

Golygai hyn un neu ddau o newidiadau i'r garfan, drwy groesawu dau aelod profiadol nôl. Al 'Ledley King' Huws yn dychwelyd i "gryfhau'r' fainc! Ac ymddangosiad cynta'r tymor Mills yn y gôl yn rhoi hwb mawr i'r tîm.

Cychwynodd Llanllyfni yn gryfach, gan greu mwy o gyfleon yn yr 20 munud cyntaf, ond arbediadau pwysig gan Rhys a 'off the line header' gan Dyl Bonc yn cadw'r sgôr yn 0-0.

Ond mi dyfodd Felin mewn i'r gêm fel aeth yr hanner yn ei flaen, gyda ymdrechion gan Cal a Dan yn gorfodi safon gan y golgeidwad cartref. Mi dalodd pwysau Felin ar ei ganfed ar ôl oddeutu 40 munud. Rhys yn penderfynu dod at ymyl y bocs i enill y bêl cyn rhoi laban iddi lawr cae, ble ffendiodd Iw Bonc le lawr yr asgell dde, cyn rhoi chwip o bêl ar draws y gôl, i ddarganfod Cal yn disgwyl wrth y postyn cefn a orffenodd yn gelfyd.

Daeth Cal yn agos i ddyblu'r fantais chydig yn ddiweddarach, ond i weld ei gic rhydd yn mynd modfeddi heibio'r postyn.

Hanner amser 0-1

Wedi bod yn y sefyllfa yma sawl gwaith yn barod y tymor hwn, pwysig oedd dod allan yn gryf ar gyfer yr ail hanner. A dyna nafodd yr ogia.

Ar 52 munud, yn dilyn chydig o build up, glaniodd y bêl o flaen y dewin gwyddelig Connor Japheth, a rheolodd hi ar ei ben-glîn cyn taro foli heibio goalie Llan, 2-0.

Gyda cryfder Dan fyny ffrynt, a gwaith cadarn Joni a Con ganol cae yn rhoi rhyddid i Iw, Cal a Ryan chwarae, cafwyd dipyn o gyfleon i rhoi'r gêm o'r neilltu, ond just methu ffindio'r rhwyd. A fel dywedir mewn pêl-droed, mae 2-0 yn sgôr peryg.

Ar 86 munud, cafodd Felin eu cosbi wrth i chydig o'r hogia fynd i gysgu. Llanllyfni'n chwarae'r bêl letraws dros top i'r rhif 9 Gareth Hughes, a adawodd iddi fynd dros ei ysgwydd cyn sgorio gôl o ansawdd i'r gornel bella, dim chance i Mills, 2-1 a chydig o squeaky bum time!

Yn ôl oriawr y ref (gafodd o hi mewn cracyr dolig!!), roedd 8 munud ar ôl. Parhaodd Felin i ymosod, gan wastraffu un ne ddau o gyfleon i ladd y gêm. Aeth Ryan lawr yr asgell chwith cyn cael ei dynnu lawr, cic rhydd ochr chwith i'r bocs. Camodd Gruff John fyny, a'i chrymanu hi ar hyd llawr i gornel bella'r rhwyd (fideo Pat Cain ar facebook CPD os dachisho replay), 1-3 sgôr terfynol.

O'r diwedd! Canlyniad bosetif i orffen y flwyddyn. 3 gêm galed i ddod ym mis Ionawr, gan gychwyn gartref yn erbyn Penmaenmawr sadwrn yma.

Gwersi o ddydd sadwrn?

- odda ni wir angen nôl y pwmp o Seilo?
- sa'n well checio os di Fic yn neud bwyd cyn bwcio bwrdd yno!
- mae isho mwy na 76 o beintia dolig, a whiplash i sdopio Joni!

Adroddiad gan Dyl Bonc

Y Tîm

Mills
Hatton
Fish
Dyl Bonc
Sgil
Con Japh
Joni
Cal
Iw Bonc
Ryan
Dan

Dan Jnr (ymlaen am Iw Bonc)
Huws
Dyl Jnr
Harri
Euron

MOTM - Dan