110917-llanerchymedd

 

badgebadge

SADWRN 9 MEDI 2017, 14.30
CYNGHRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD ADRAN 2
Cae Seilo
Torf: 45

Y Felinheli

Gruff John 25'
Iwan Edwards 31'
Ifan Dafydd 47'
Gruff John 62'
Gruff John 70'
Ryan Cain 75'
Ifan Roberts 85'

7 - 0

Llanerchymedd

 

Yn dilyn dwy ganlyniad dda iawn gartref i Meliden ac awê i Benmaenmawr (best on site pub & beer garden yn y lîg) cyn i Gruff John fynd off ar international duty, roedd Felin yn mynd mewn i hon mewn mŵd reit bosetif.

Er glaw trwm dyddiau cynt a bore'r gêm, roedd San Seilo'n edrych yn ysblennydd ar ei newydd wedd, hefo'r premiership style leins fyny ac i lawr

Er absenoldebau sylweddol yn Ifan Em (mud run) a Gwion Ffarmwr (annual disappearing act), roedd sgwad reit gryf gan Emron i ddewis ohono, ond roedd ansicrwydd am "whereabouts" Connor 🍀 Japheth cyn y gêm (lot o confusion efo availability pan mae o ar trips Portugal), a potential "mud runs" o fath arall Joni yn achosi chydig o bryder!

Dechrau reit addawol i'r gêm, Felin yn creu dipyn, ond methu rhoi'r bêl yn y rhwyd. "Peth anodda i neud ar gae Pêl-droed" yn ôl Malcs!! Rhai o'r faithful yn dechrau ofni bod hi am fod yn 'one of those games'.

Panic over wedi 25 munud, symudiad a welodd Iw Eds yn croesi i ddarganfod yr Eog ei hun, Gruff John, a beniodd o tua 10 llath.

Parhaodd Felin i greu, a dod chydig yn llai gwastarffus. Iw Bonc yn bwydo'r controversial Iw Eds (Joey Barton Felin), a ddangosodd shades of a young Kev Eds, yn dawnsio rownd y goalie a rhoi'r bêl yn y rhwyd wâg 2-0.

Roedd hi'n dair cyn bo hir. Mart yn mynd fyny, ac yn enill peniad o'r gic gornel, ond iddi wyro oddi ar y smiling assassin ei hun, If Daf Drws nesa a croesi'r linell, 3-0 hanner amser.

Neges hanner amser (ar ôl neud yn siwr bo sefyllfa Joni under control) odd "os dani'n gallu sgorio 3 yn yr hanner cynta, mae modd iddyn nhw sgorio 3 yr ail hanner". Felly ar flaenau'n traed a cario mlaen.

Cychwynodd Felin o le adawyd y gêm cyn yr egwyl, hefo un ymosodiad ar ôl llall, ond eto, gôl geidwad Llannerchymedd yn ddraenen yn ystlys y tîm cartref gan neud un arbediad ar ôl llall.

Wedi tua awr o chwarae, cafwyd gôl reit sbeshal. Connor yn rhoi'r bêl i Joni tu allan i'r bocs, cyn iddo ddriblo o amgylch amddiffynwyr Llan, a gorffen yn wych i gornel y rhwyd, 4-0.

Erbyn hyn roedd Felin yn gyffyrddus, a gwelwyd symudiad gwych arall. Ryan Cain yn ennill y bêl yn y safle cefnwr chwith, cyn gweld one two rhwng Joey Barton a Gruff (silent partner oedd Iw Eds yn y one two yn ôl fantasy football scoring panel) a rhoddod Gruff drwodd ar gôl, 5-0, a hat-trick perffaith i Gruff.

Sdal, Tom a If Rob on yn lle Sgod, Dan a Iw Bonc.

Chydig funudau wedyn, cic hir gan Marc Wyn, a camddealltwriaeth yn amddiffyn yr ymwelwyr yn gweld y bêl wrth draed Ryan (odd efo'r 3rd highest hairdo of the day), cymerodd ei amser i fynd rownd un ne ddau o dacls, codi ei ben i weld os oedd Jack yn ffilmio, wedyn gosod y bêl yn gelfydd heibio'r gôli, 6-0.

Hefo'r gêm yn y bag (er bod number 10 Llanerchymedd yn meddwl odda nw dal am gael wbath o'r gêm!), gwthiodd y super sub, Ole Gunnar Ifan Roberts i'r cwrt cosbi, a gorffen yn dwt wedi pull back o'r chwith, 7-0 a gôl gynta Ifs ers under 14's!

Win dda arall i'r hogia, ac heb gair o gelwydd, sa hi di gallu bod yn bymtheg oni bai am berfformiad seren y gêm gan Peter Finn, gôl-geidwad Llan.

Dim gêm wythnos nesaf yn dilyn gohuriad gêm Mynydd a Mochdre yng nghwpan Cymru. Gartref i Llanystumdwy yn nhlws CBDC 23ain o Fedi. Dewch yn llu!

Ffeithiau'r dydd
Ma If Daf Drws Nesa £1 in credit i pwls bach wsos nesa.
Di crossbar gôl gwaelod heb ysgwyd gymaint a nath o pan hitiodd Connor o tua 30 llath.
Odd celebration Dan i'r dissallowed rebound yn priceless
Os dachi'n ffindio ffôn, peidiwch gofyn tha Gwil John helpu chi ffindio pwy sydd bia fo.
Oedd "runs" Gruff yn fwy 'Messi' na'r 'messy' odd o'n ofni cyn gêm!
Neshi ddeud na hona odd gôl gynta If Rob ers Under 14's?!!

Adroddiad a lluniau gan Dylan Bonc. Fideos gan Jack Cain.

Y Tîm

Marc Wyn
Ryan Cain
Fish
Martin
Dyl Jnr
Ifan Dafydd
Con Japh
Gruff John
Iwan Eds
Iw Bonc
Danny

Aled Em (ymlaen yn lle Iw Bonc)
Ifan Roberts (ymlaen yn lle Fish)
Tom Oliver (ymlaen yn lle Danny)
Chris Brown

MOTM - Ryan Cain

Cliciwch yma i weld lluniau o'r gem