170318-a

 

badgebadge

SADWRN 17 MAWRTH 2018, 14.30
CWPAN HER MAWDDACH ROWND 2
Cae Seilo

Y Felinheli

Connor Japheth 60'
Dylan Jones 89'

2 - 4

(2-2 FT)

Llandyrnog United

Mark Roberts 55'
Mark Roberts 68'
Mark Pendleton 113'
Mark Roberts 119'

 

Cafwyd unofficial pitch inspection gan rywun o bwyllgor Llandyrnog am 7:30 bore Dydd Gwener a fidio ganddo ar Facebook yn dangos bod y gwair ychydig bach yn wlyb. Roedd hyn er mwyn ceisio perswadio’r gynghrair i ail drefnu lleoliad y gem i gae Llandyrnog heb hyd yn oed siarad â neb o bwyllgor Felin am y peth! Felly roeddem ni’n gwybod bod hogia Llandyrnog ddim yn ffansi trip i gae Seilo cyn hyd yn oed dechrau.

Yn dilyn gwaith da gan Cra a’i fforch Dydd Gwener, roedd y cae yn edrych fel carped a cafodd y gem y ‘go ahead’ fore Sadwrn. Roedd hogia Llandyrnog wedi cael gafael ar CD Ministry of Sound Club Mix 2k5 felly roedd hwnnw’n blastio yn eu ystafell newid. Roedd hi fel Môn FM ar nos Iau yna. Rhoddodd Con Dubliners’ greatest hits ymlaen yn ystafell newid Felin. Ar ol i bawb ddymuno diwrnod St Patrick hapus i Con, roedd hi’n amser mynd allan i wynebu y ‘beast from the east’ neu y ‘diawl o’r dwyrain’. 6-5 oedd y sgor rhwng y ddau dim yma tymor diwethaf felly roedd disgwyliadau y 6 spectator oedd wedi dod i ganol y gwynt a’r eira yn uchel iawn. Nid oedd Phil Stead hyd yn oed yn gallu ffeindio gem arall fwy cyffrous i’w wylio yng Ngogledd Cymru.

Cafwyd munud o dawelwch cyn i’r gem ddechrau i gofio am Nesta a Bet, 2 berson oedd yn deulu i nifer sydd a chysylltiad agos at CPD Y Felinheli.

Fe ddigwyddodd dim byd mawr yn yr hanner cyntaf rili. Ella dylsia Phil wedi mynd i gem Blaena v Meliden yn lle. Felin oedd ar y top ac yn creu y cyfleon ond daeth y gol ddim. Erbyn diwedd y hanner cyntaf, roedd pryderon am Ryan gan ei fod yn edrych yn oer. Roedd atgofion o Tom Bach yn cael hypothermia yn Harlech yn dod yn ol i’r côf. Yn ffodus, cafodd Ry fenthyg towel Dan a panad Marc Wyn i gynhesu dros hanner amser a roedd yn barod amdani eto erbyn yr ail hanner.

Fe aeth Llandyrnog i fyny 1-0 trwy eu ymosodwr tua 10 munud i mewn i’r ail hanner. Ond ychydig ar ol hynny daeth Felin yn gyfartal. Cometh the hour, cometh the man. Ar ddiwrnod ei nawdd sant - Connor Patrick yn codi’n uwch na neb arall o gic rhydd Iw Eds i benio hi fewn megis Niall Quinn yn ei breim. Roedd hi’n amlwg gymaint oedd hyn yn olygu i Con ar ei ddiwrnod mawr (dwi’n siwr bo’fi di byrstio blood vessel yn fy llaw ar ol yr high 5 geshi ganddo fo). Fe aeth Llandyrnog i fyny 2-1 – eu streicar yn dathlu wrth jogio i’r corner flag ac holl dim Llandyrnog yn ei ymuno. Mae streicars Felin yn lwcus o gal clap ar ol sgorio! Does dim malu cachu yn Felin. Sgorio ydi job streicars felly does dim angen celebratio – fel meddai y gwr doeth Mario Balotelli unwaith ‘tydi postman ddim yn dathlu ar ol danfon llythyr’. Daeth Al Em, Dyl Junior a Cra ymlaen i ddod a coesau ffresh i’r cae. Tua diwedd yr ail hanner, gwaith da gan Iwan Eds ar y chwith i gael y bel i’r bocs, fflic gan Gruff ac Aguero-esque finish gan Dyl junior i ddod a hi yn 2-2 i heuddu clap bach gan ei gyd-chwaraewyr. O gofio bod y rygbi ymlaen, doedd Felin ddim yn cîn iawn iddi fynd i extra time. Hefyd, roedd Al Em eisiau gwneud y gorau o’r bridal suite a’r champagne yn y Chancellor Hotel, Manchester. Romantic iawn chwarae teg Al. Felly roedd hi’n hanfodol ffeindio winnar……ond daeth hi ddim. Sgor ar ol 90 munud – 2-2.

Amser ychwanegol (Al Em yn lloerig). Roedd coesau blinedig ar hyd y cae a roedd hanner cyntaf extra time reit ddistaw. Erbyn yr ail hanner, mae’n rhaid bod ysbrydoliaeth ministry of sound wedi cicio fewn oherwydd nw gafodd y gol nesaf i wneud hi’n 3-2. Roedd Felin yn pwyso am gol a mynd yn agos cwpwl o weithiau - gol Dan yn cael ei fflagio am offside (agos iawn yn ol rhai) a Chris Brown yn cael ei ddal yn camsefyll hefyd. ‘Watch the f****n line’ oedd y neges gan Euron. Reit yn y diwedd, fe chwalodd Llandyrnog obeithion Felin drwy adio un arall - wedi ei ddilyn gan trademark Llandyrnog celebration. Wedyn aeth Dyl jnr yn flin ar ol cael pel yn ei fôls. Felly diwrnod siomedig i Felin.

Ffeithiau’r diwrnod:
• Dyma’r tro cyntaf i gymeriad cartoon ddod i wylio gem yng nghae Seilo
• Hwn oedd y 5ed gem yn unig i Felin chwarae ers Tachwedd 18fed. Efallai bod hi’n beth da i beidio cael run dda yn y gwpan wedi’r cyfan…
• Mae’n wâst o amser teithio am awr i wneud pitch inspection am 7:30 bore cyn y gem
• Mae app tywydd Fish yn spot on
• Peidiwch a gofyn i Gary bach gwcio pizza i chi

Adroddiad gan Gruff John. Fideos gan Jack Cain. Lluniau gan Matthew Fish, Dyl Bonc a Aled Sgil.

Y Tîm

Marc Wyn
Ifan Dafydd
Ifan Em
Martin
Ryan
Con Japh
Iwan Eds
Gruff John
Iw Bonc
Carwyn
Danny

Jordan
Cra (ymlaen yn lle Carwyn)
Dyl Jnr (ymlaen yn lle Martin)
Al Em (ymlaen yn lle Iw Bonc)
Shait

MOTM - Gruff John

Cliciwch yma i weld lluniau o'r gem