general-home

 

badgebadge

THURSDAY 4 MAY 2017, 18.30
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Cae Seilo
Attendance: 70

Y Felinheli

Iwan Owen 31'

1 - 0

Pentraeth

 

Welsh only available ...

Wedi tymor cynta reit gymysglyd nôl yn y Welsh Aleians, cafwyd ddiweddglo boddhaol gartref yn erbyn "only the players are allowed food" Pentraeth ar noson braf ddechrau mis Mai.

Roedd sawl absenoldeb ar gyfer y gêm, gan gynnwys Geidwad y match balls Sdal Em, Harri (sprint cartoons), Mart (dwi'n finished), Dyl Bonc (mae o YN finished), Hatton (fflio plên i Barcelona yn lle Pilot Kevin Parry), a'r absenoldeb fwyaf sylweddol, sef Euron.

Felly'r bloeddiwr Islwyn Bonc in charge! Golygai'r absenoldebau, ynghyd a "chance am gêm Wali" i un ne ddau o'r ffyddloniaid, bod tîm tipyn gwahanol o'r fuddigoliaeth sadwrn cynt yn erbyn Prestatyn.

Dim llawer ynddi'r hanner awr cynta rili, lot o chwilio am beli coll, a diffyg footwear addas gan Eifion "traed gorilla mewn flip flops" ar gyfer y job!!

Ond wedi hanner awr, fflach o athrylith, wrth i Dyl Bonc, neud rhediad lawr yr asgell dde, wedyn troi am y fflag gornel pella, shimi heibio Moira, a nôl pack o Heineken i'r hogia o'r fridge!!

Nôl at y pêl-droed! Tra bod y cwrw'n llifo, Iwan Bonc yn cael y bêl wrth yr asgell chwith yn dop cae, torri mewn, a crymanu'r bêl hefo pwer i gornel dop pella'r rhwyd, dim chance i'r gôli uchel ei gloch, 1-0 Felin hanner amser.

Doedd dim llawer i adrodd o'r ail hanner i ddweud y gwir. Dan Jnr drwadd ar gôl, ond i'r gôl-geidwad (a'i pads skateboard) ddod i'r adwy, ond Dewi Morris (hen ffefryn!!) yn codi ei fflag am gamsefyllian.

Iw Eds on yn lle If Daf, Dan on yn lle Cra cyn iddo golli ben yn llwyr efo centre half Pentraeth, a Ryan yn lle Dan Jnr.

Pentraeth gafodd y cyfleon gorau i gyd, yn neud popeth heblaw am sgorio. Hitio'r postyn a'r bar, tra bod Mils yn neud joban wych yn y gôl i Felin, gan gynnwys arbed penalti wedi Pentraeth fynd lawr i 10 dyn.

Sgôr terfynnol o 1-0 felly, a darfod y tymor hefo 2 fuddigoliaeth. Adeiladu ar hyn tymor nesa di'r cam nesa.

Uchafbwyntiau'r noson -

Croeso nôl Gwion Ffarmwr, er sa fo di gael ei dynnu off gan Euron am ei crowd acknowledgement rôl y turn na!!

Does dim gobaith o gwis llwyddianus yn y fic os na Shait sy'n neud y cwestiynau! Be di enw cynta Usain Bolt?!!!

Dod allan o changing rooms i ddathlu cael penalti! Tool

Traed sydd gan dderyn bach, dim talons!!

Pose sheriff gan Robin, just a marw isho line spray i ddiddanu Sgod!!

Report by Dyl Bonc

Line-up

Mils
Dyl Jnr
If Em
Ffarmwr
Sgil
If Daf
Con
Joni
Iw Bonc
Cra
Dan Jnr

Dan (on for Cra)
Ryan (on for Dan Jnr)
Fish
Iw Eds (on for If Daf)
Dyl Bonc

MOTM - Connor Pat

Gwellhad buan, a dymuniadau gorau Seren xx