070117-a

 

badgebadge

SATURDAY 07 JANUARY 2017, 14.00
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Cae Seilo
Attendance: 55

Y Felinheli

Gruff John 6'
Gruff John 12'
Daniel Hughes 69'
Daniel Hughes 80'

4 - 0

Penmaenmawr Phoenix

 

Welsh only available ...

Enillodd Felin eu hail gêm yn olynol brynhawn Sadwrn yn erbyn y tim sydd yn ail yn y Gynghrair. Roedd yn fuddigoliaeth ysgubol o 4-0 yn erbyn Penmaenmawr Phoenix, y tro cyntaf i Felin beidio ildio gôl mewn gem y tymor yma. Dyma'r gêm gyntaf yn San Seilo ers canol mis Tachwedd, ac roedd Felin yn benderfynol o wneud i'r mantais yma gyfri.

Dechreuodd yr ymwelwyr yn gryf a chorfforol gan roi pwysau ar amddiffyn Felin, hyn yn arwain at Dyl Bonc yn cael “double vision” yn gynnar yn y gêm. Roedd Felin yn delio'n dda â'r pwysau cynnar yma, ac yn fuan iawn daethant mewn i'r gêm gan gadw meddiant a chreu cyfleon. Ar ôl 6 munud, gwnaeth Felin i'r pwysau gyfri. Cic gornel, a Gruff John yn y lle iawn ar yr adeg iawn i wyro'r bêl i gefn y rhwyd gyda rhan(nau) o'i gorff. 1-0 i Felin.

Yn sydyn ar ôl sgorio, roedd Felin dan bwysau ac roedd rhaid i Sgil fod ar flaenau ei draed pan daniodd canolwr Phoenix bêl letraws i'r asgellwr. Aeth y bêl dros ben Sgil ond llwyddodd i daclo'r asgellwr a stopio cyfle gwych i'r ymwelwr o flaen y gôl. Roedd chwaraewyr Phoenix yn gandryll ac yn gofyn am gic o'r smotyn, ond nid oedd y dyfarnwr yn cytuno.

Daeth ail gôl Felin yn fuan ar ôl hyn. Gruff John unwaith eto, y tro hwn yn darganfod ei hun un ar un efo'r golgeidwad (ffrind Rich Humph). Dawnsiodd Gruff ei ffordd o amgylch y golgeidwad a phasio'r bêl i gefn rhwyd gwag. 2-0 i Felin.

Yn dilyn ildio ail gôl a pheidio cael cic o'r smotyn, roedd yr ymwelwyr wedi'u cynddeiriogi ac yn taclo'n ffyrnig wrth sglefrio ar arwynebedd llithrig San Seilo. Un o ddioddefwyr y taclo corfforol yma oedd Cal, gafodd ei 'glatro' gan un o ganolwyr Phoenix. Cic rydd i Felin. Nid oedd Cal yn hapus iawn efo'r dacl ac roedd angen rhai o chwaraewyr Felin i fod yno i'w ymdawelu, gan cynnwys Sgil gyda'i eiriau doeth: “cymera dy frustration allan ar y shot.” Er i Sgil bwysliesio hyn ddwywaith, Ryan gymerodd y cic rydd, ergyd bwerus yn syth at y wal.

Hanner amser, Felin 2-0 Penmaenmawr.

Roedd Felin yn gwybod y byddai'r ymwelwyr yn codi eu gêm yn yr ail hanner, ac yn wir dyna a welwyd gyda Phoenix yn mwynhau'r mwyafrif o'r meddiant cynnar. Er hyn, roedd Felin yn gyffyrddus. Fel tîm a oedd yn cynnwys cymysgedd o'r ifanc a'r hen (profiadol!), roeddynt yn amddiffyn yn wych gan ddefnyddio cyflymder Iwan Bonc a Ryan ar yr asgelli i dorri pan oedd cyfle. Roedd Connor Tackle King hefyd yn gwarchod y pedwar cefn yn wych, gan stopio mwy nag un ymosodiad Phoenix cyn cyrraedd y cwrt cosbi.

Ar ôl gweithio mor galed i gadw'r ymwelwyr allan, roedd angen gwneud newidiadau. Daeth Dyl Jnr ymlaen yn lle Iwan Bonc a Danny yn lle Cal. Roedd Cal yn haeddu seibiant ar ôl gadael ei farc ar y gêm, a chafodd gyfle i adael ei farc oddi ar y cae ar ôl cael ei eilyddio. Profodd yr eilyddio i fod yn ddylanwadol ar y gêm, wrth i Danny fanteisio ar gamgymeriad y golgeidwad ac ychwaegu at nifer y goliau. 3-0 i Felin.

Erbyn hyn roedd Felin yn rheoli'r gêm ac roedd hyn yn rhwystredig i'r ymwelwyr. Daeth hyn i'r amlwg yn dilyn gwrthdrawiad yn yr awyr rhwng Ifan Em a blaenwr Phoenix a arweiniodd at bêl-fowns. Wrth drio cicio'r bêl yn ôl i Marc Wyn yn y gôl (a oedd hanner ffordd drwy ei drydydd papur newydd), ergydiodd blaenwr Phoenix y bêl at gefn Sgil druan. Er mwyn gwneud pethau'n waeth, penderfynodd Aled Em rwbio halen yn y briw. Derbyniodd Aled bêl 'dros y top' i'w roi yn glir lawr yr asgell chwith, 'm'ond iddo droi'n ôl a dawnsio rownd dau o chwaraewyr Phoenix, a phenderfynu'n erbyn defnyddio'i gyflymder i wibio lawr yr asgell a chwilio am bedwerydd gôl Felin.

Nid oedd yn rhaid i Felin ddisgwyl yn hir am y gôl olaf fodd-bynnag. Gôl arall i Danny, y tro hwn ergyd wych i gongl isaf y gôl. Dyma hyn yn lladd y gêm yn llwyr ac yn torri calonnau'r ymwelwyr. Buasai Felin wedi gallu sgorio dwy neu dair arall wedi hyn ond roedd rhaid bodloni ar bedair gôl yn unig yn y diwedd.

Sgôr terfynnol, Felin 4-0 Penmaenmawr.

Canlyniad gwych i Felin a dechrau da i'r flwyddyn newydd yn dilyn rhediad siomedig o ganlyniadau cyn y Nadolig. Ymlaen yn awr at y gêm nesaf yn erbyn Llandudno Albion, gem anodd yn erbyn y tîm ar frig y tabl, ond un y mae'r chwaraewyr a'r tim rheoli yn gwybod y gallent ei hennill os gwelwn ni'r un math o berfformiad a'r gêm ddiwethaf.

Report by Ifan Em

Line-up

Marc Wyn
Fish
Ifan Em
Dyl Bonc
Sgil
Con Japh
Iwan Eds
Iw Bonc
Ryan
Cal
Joni

Dan Jnr
Morgan
Huws
Dyl Jnr (on for Cal)
Aled Em (on for Ryan)
Dan (on for Iw Bonc)

MOTM - Ifan Em

Click here to see pictures of the game