080417-c

 

badgebadge

SATURDAY 8 APRIL 2017, 14.30
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Gronant
Torf: 40

Prestatyn Sports

Ian Dunn 21'
Ian Dunn 30'
Paul Watts 84'

3 - 1

Y Felinheli

Gruff John 38'

 

Welsh only available ...

Ar ôl taith lwyddiannus i Flaenau Ffestiniog, man geni'r 'sbeit gora ever' - Mushroom Bach Tew, sunny Prestatyn oedd nesaf i GPD Y Felinheli. Fel yr arfer diweddar o gael bws i fynd i unrhyw le sy'n fwy na ugain milltir i ffwrdd, dyna oedd y stori eto, diolch i Sgiff am drefnu.

imageWedi cael ein tywys lawr lon 'anaddas i gerbyd mawr' gan Is a Dan, o'r diwedd, cyrhaeddom y stad lle'r oedd y cae. Efo mond tua hanner awr i'r tîm baratoi cyn y gêm ac Euron yn panicio roedd digon o amser i'r ffans, injured players (fi) a'r lazy players (Huws) fynd am beint neu ddau i'r dafarn gwerth chweil y (g)Ronant Inn a gwrando ar albwm cyfan The Enemy diolch i DJ Party Evans. Cyrraedd nôl yn y cae wedyn ddeng munud i mewn i'r gêm.

imageYr un tîm a ddechreuodd yn Blaenau oedd wedi dechra' yma gyda Chris 'Beyond' Brown eto yn cymryd lle arferol Connor Patrick sydd dal wedi' anafu neu yn Pontins ne rwbath. Roedd y gêm wedi dechrau 'yn tynn' a neb yn cael llawer o gyfleon. Prestatyn Sports oedd y cyntaf i rwydo, pêl hir yn dod o'r cefn a dal amddiffyn Felin allan cyn disgyn wrth draed blaenwr 'Statyn. Er i Mills gael cyffyrddiad yn yr ergyd aeth y bel i mewn jyst o dan y trawst.

Pum munud yn ddiweddarach roedd felin yn gwthio'n ôl ac yn cael y rhan fwyaf o'r meddiant. Ar ôl cyd chwarae deniadol rhwng Gruff, Ryan ac Iwan Eds ar y chwith, ffeindiodd Iwan ei hun ar ochr y cwrt cosbi gyda'r bel cyn twyllo amddiffynnwr Prestatyn a chael ei lorio am gic o'r smotyn. Gruff yn sefyll i fyny a rhoi'r bel yn gornel dde'r rhwyd. 1-1

Sgoriodd Prestatyn yn sydyn wedyn ar ôl i'w rhif 7 dorri allan o ganol cae a bwydo 15 (oedd fod yn cael ei farcio gan Dyl ond oedd o tua 1/2 milltir i ffwrdd yn cael jangl hefo wingar 'Statyn) ac yntau'n sgorio gyda dreif isel.

Roedd hi'n ddiweddglo eithaf tanllyd i'r hanner gyda'r dyfarnwr yn rhoi llond ceg i reolwr Prestatyn am drio treisio ei lumanwr. Y rheolwr wedyn yn cymryd yr abwyd wrth i ffans Felin (Tegid) gymeradwyo'r dyfarnwr a chwerthin ar ei ymateb. Sydyn iawn oedd Tegid i ddiflannu nôl i'r Ronant wrth i'r chwiban fynd am hanner amser.

Ar ôl treulio'r hanner amser yn y dailion poethion yn mynd i nôl mis cics Sdal ac Euron dechreuodd yr ail hanner. Rhoddwyd y fanc fanager annibynadwy (lle ma’ company card fi?) Fish ymlaen efo dyn cryfaf Felin, James Hatton yn lle Sgil a Gruff gyda IDDN yn symud i ganol cae. Tebyg i ddechrau'r gêm oedd hi efo neb yn gallu gwneud llawer efo'r bel. Roedd hi'n edrych fel bo' hi'n mynd i aros yn 2-1 am weddill y gêm ond cafodd un o chwaraewyr Prestatyn ei lorio mewn safle peryglus. Chwip o ergyd o'r gic rydd am gornel dde gol Mills. Doedd dim oedd Mills na neb arall (heb law am ella Tom Bach) yn gallu gwneud i atal y gôl. 3-1

Eithaf diflas oedd gweddill y gêm wedyn er i Euron drio bwydo cyflymder i mewn i'r gêm wrth ddod ac Aled Em 'mlaen yn lle Cra Bra. Ar un pwynt oedd pawb yn meddwl fod Dyl Bonc wedi cael ei wylltio go iawn gan iddo floeddio 'c**t!' ar rywun ond byw fyny i'w enw da fel y 'nicest centre back in the league' wnaeth o wrth ymddiheuro a dweud mai'r llawr oedd o'n alw'n c**t!

imageWedi diwedd y gêm, gwrthod cynnig Phil Gestede am lifft, a nôl i'r Ronant am un sydyn lawr y 'longest short cut ever' heibio’r lawnt gora yng Ngogledd Cymru. Nol ar y bws wedyn lawr i Brestatyn hefo gweddill y tîm codi pwysau am luniaeth a gweiddi 'gwed!' ar y mulod yn y Grand National.

Diwrnod difyr ond siomedig colli mewn gem lle doedd yr un tîm na'r llall yn haeddu tri phwynt i fod yn onest. Nol adref yng nghae Seilo dydd Mawrth yn erbyn Llanllyfni.

Pethau i'w cofio o'r diwrnod -
• Ma' 'na uffar o fiw o gae bach Prestatyn Sports.
• Ronant Inn yn superb.
• Arfordir gogledd Cymru llond brexit budur.
• Y beer float oedd y deal gorau yn 236.
• Rhaid bod yn wyliadwrus o spies Mochdre.
• Does gan Mochdre ddim railings.
• How much game you got left?' ydy'r ffordd gywir o ofyn i'r dyfarnwr faint o amser sydd ar ôl yn Saesneg.
• Mae modd colli o leiaf dwy sdôn wrth beidio bwyta 2 breakfast bap, 3 Red Bull a 4 Coke y dydd.
• He's all fart but no poo!'

Report by Carwyn Dafydd

Line-up

Rhys Mills
Ifan Dafydd Drws Nesa
Aled Sgil (Matthew Hughes)
Dyl Bonc
Ifan Em
Chris Brown
Gruff John (James Hatton)
Iwan Eds
Iwan Bonc (Aled Em)
Ryan
Danny

Click here to see pictures of the game