110417-a

 

badgebadge

TUESDAY 11 APRIL 2017, 18.30
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Cae Seilo
Attendance: 80

Y Felinheli

Aled Emyr 5'
Daniel Hughes 27'
Iwan Edwards 49'

3 - 1

Llanllyfni

Gavin Davies 80'

 

Welsh only available ...

Yn dilyn canlyiad siomedig lawr y côst, a thrip hwyliog yn ol via ambell i dy tafarn, er bod na’m ryw lawer o groeso i’r hogia’n rhan fwyaf o dafarnau Conwy! Croesawyd yr hen ffrindiau o Lanllfyni I’r San Seilo ar nos fawrth braf ond oer. Cychwynodd y gem yn hwyr wrth i’r dyfarnwr ganiatau amser ychwanegol i Lanllyfni gynhesu fyny gan iddyn nhw gyraedd y cae heb eu cit.

O’r dechrau roedd Felinheli i weld yn fwy cyfforddus ar y bel, tim wahanol ac anadnabyddus Llan ddim cystal a’r hyn ‘da ni wedi arfer a hi yn y tymhorau diwethaf. Pum munud mewn I’r gem ac roedd yr hen ffeffryn Sdalem wedi sgorio yn ei “first start of the season”. Tydi’r dorf a fu ddigon lwcus i weld y gôl dal ddim yn shwr os mai foli ta peniad oedd bwriad Aled wrth iddo neidio i’r awyr a gadael i’r bel ei daro - ond mae’n rhaid ei fod wedi drysu’r gôl geidwad hefyd wrth iddo ollwng y bêl ac gadael Emyr efo ‘tap in’.

Bu taclo ffyrnig yn nghanol y cae drwy gydol yr hanner cynta, Martin ac Iwan Eds yn gryf a theg, hogia’ llan fel arall ar adega. Roedd yn fraint cael gweld Ifan Dafydd Drws Nesa’ a chefnwr chwith Llanllyfni yn rhoi bob dim mewn i ‘daclo’ ei gilydd. Rhai pobl yn honni bod rhif 6 wedi cachu’n tebot Nain IDDN, byddai hyn yn esbonio ambell i dacl hwyr ac ‘afters’.

Mae pawb yn gwybod mai hogyn clên ydy Aled Emyr yn y bôn, chlywch chi’m Aled hyd yn oed yn galw llawr yn c**t! Yn gynta’, mi ddaru o ddefnyddio’i gyflymder (ymarfer efo’r parachute wedi gweithio) i drechu’r cefnwr ‘llydan’. Ond i sbario rhoi diwedd I’r gem yn yr hanner cynta a thorri calonau hogia Llan fuodd Aled ddigon tosturiol i roi’r bel dros y bar. Cyfle arall wedyn gan groesiad hyfryd Danny, ond unwaith eto, Emyr yn profi ei gymeriad gan basio’r bel yn ôl mewn I’r bocs I roi cyfle I rhywun arall gael sgorio. Diolch Al am dy sportsmanship.

Hanner awr fewn I’r gem a dyma Danny’n cael cyfle ar ol goal mouth scramble. Ergydiad bwerus a fyddai wedi cyraedd y Fenai oni bai am y rhwyd. Lenny’n amlwg wedi mwynhau’r gôl gyda dyfyniad ‘Pe-Te-esque’ - “Pan mae o’n hitio nhw, mae o’n hitio nhw.”

Hanner amser 2-0.

Ail hanner digon diflas. Tywydd oer ddim yn helpu, ambell I gefnogwr yn gorfod gadael cyn dal pneumonia. Trydydd gôl gan Iwan Eds, yn affodus mi oedd Glyn yn mwydro fi felly nes i fethu’r gôl. Ddudwn ni mai fforti-iardar oedd hi! 3-0 wedi 49 munud. Beryg bod y gem drosodd.

Deng munud cyn y diwedd, cyfle o gic rhydd. Doedd Rhys ddim am ildio dwy gol o gic rhydd mewn wythnos. Ergyd bwerus yn taro’r wal a gyrru Rhys y ffordd anghywir. Dim byd fyddai wedi gallu neud am y gol, ond mi gafodd y dorf gyfle I weld ei tourettes enwog. “Da chi mond yn ffowlio achos bo’ chi’n ff***n shit!”

Chwiban ola, diolch i dduw i ni gyd gal mynd i’r fic i gynnhesu o flaen y tân! Da iawn hogia, tri phwynt pwysig! 3-1.

Pethau a ddysgwyd
• Mae Mochdre i Conwy yn fyrach na Caernarfon i Felin, ond mae Caernarfon i Bangor yn bellach na Mochdre i Conwy.
• Mae na llwythi o bobl Cyngor am fod yn noson Bierkeller
• Tydi’r reff ‘na sy’ ddim yn symud o’r centre circle, ddim chwaith yn rhedag llawar tra’n linesman.

Report by Gwion Tegid