general-home

 

badgebadge

TUESDAY 25 APRIL 2017, 18.30
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Cae Seilo
Attendance: 70

Y Felinheli

Matthew Hughes 71'

1 - 2

Llanerchymedd

Mark Marshall 29'
Marquis Roberts 61'

 

Welsh only available ...

Wedi dwy ganlyniad pwysig iawn yn erbyn Amlwch a Blaenau, beryg bod rhai yn meddwl bod hon "in the bag" cyn i'r chwiban gyntaf fynd! Ond nid felly oedd hi.

Dechreuodd Llanerchymedd yn bosetif, gan orfodi Euron i newid y formation yn fuan iawn yn y gêm.

Doedd dim llawer i reportio o'r hanner cyntaf i ddeud y gwir, Felin yn wastraffus o flaen y gôl, ac wrth drio rhywbeth lawr yr asgell chwith, yn colli'r bêl, cyn i Llan gymeryd eu cyfle a mynd mewn hanner amser 0-1 fyny.

Neges hanner amser oedd i ddyfalbarhau, a mi ddeith y gôls, ond toedd dim siap sgorio ar Felin (y geiriau barn, door, couldn't a hit yn dod i'r côf!!), tra bod Llan yn gwneud y mwya o'i cyfleon prin nhw, wrth i'r chwaraewr mwya "injured" ond dal i allu chwarae dwi rioed di weld (fwy heroic na Irfon Emyr rôl i ankle fo "fynd" wedi 20 munud!) hitio'r bêl o tua 25 llath i'r rhwyd wrth droed y postyn, 0-2.

Er bod Felin ddim allan o'r gêm eto, roedd y methiant o flaen gôl, yn ogystal a pherfformiad y ref (dio just ddim yn licio Felin...end of) yn neud am noson ffrystreting dros ben. Er hyn, llwyddodd Xabi Alonso (neshi ddeud Xabi Alonso? Sori Fish oni'n feddwl!) hitio gic rhydd o hanner ei hun dros ben y golwr i'r rhwyd...eto! 1-2.

Er yr holl bwyso, oedd dim golwg o'r gôl oedd angen i ddod a bethau'n gyfartal. Y cyfleon gorau yn dod i Iw Eds, ond ei one on one yn cael ei arbed gan y golwr, cyn i Euron rhoi boot i'r match ball sbar a gweiddi f#*€?n s#@t. A cyfle euraidd i Dan yn y postyn cefn efo peniad o gornel ath dros y trawst, cue y shout "Felinheli, be dachi'n blydi neud", #classicalwyn, #whoneedsabramovicwevegotkitchenmedic.

Diwedd y gêm, a buddigoliaeth bwysig iawn i Llanerchymedd, a allai olygu eu bod yn osgoi'r cwymp. Achos i ddathlu iddyn nhw? Nafo nhw'm neud hyny yn y Fic beth bynnag. Dim un ohonynt yn troi fyny i flasu sausage casserole gwych Rick yn y Fic, somedig iawn. Peep maraid (two for one Tuesday's)!!

Er colli, roedd rhaid cymeryd calon o'r ffaith ein bod dal i greu y cyfleon, just dysgu cymeryd nhw sydd isho. Cyfle i wneud hyny dydd sadwrn. Gêm galed gartref i Prestatyn Sports, c'mon hogia!

Pethau a ddysgwyd

Gafodd Gwil John werth ei bres o'i gôt dew bwrdd dŵr. Oddi tha Siberia!

Ma Tourette's yn hereditary yn nheulu'r Edwards os di'r fflip gafodd Iw yn stafell newid rôl gêm wbath i fynd ar!!

Peidiwch cael take away o curry scene noson cyn gêm

Cofiwch archebu eich tocyn ar gyfer y noson ALMAENAIDD!!

Report by Dyl Bonc

Line-up

Mills
Fish
Mushroom Bach Tew
Dyl Bonc
Irfon Emyr
Drws nesa
Iw Eds
Joni
Sdal
Dan
Iw Bonc

Dan Jnr (on for MBT)
Dyl Jnr (on for Sdal)
Ryan Cain (on for Iw Bonc)
Pob
Euron

MOTM - Dan