041117-a

 

badgebadge

SATURDAY 4 NOVEMBER 2017, 14.00
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Tan Parc

Llanerchymedd

0 - 5

Y Felinheli

Chris Brown 2'
Iwan Owen 4'
Iwan Owen 32'
Chris Brown 52'
Aled Emyr 85'

 

Welsh only available ...

Yn dilyn canlyniad penigmap yn erbyn Cemaes ar Gae Seilo, trip i Llanerchymedd oedd yn disgwyl Felinheli ar Sadwrn cyntaf mis Tachwedd. Roedd gan Felin dipyn o chwaraewyr ar goll ar gyfer y gem. Y tri brawd Hughes yn Bluestone, Hogia Llys Meirion ar goll yn Prague a Gwion Tegid yn dynwared Bruno Mars yn wych yng Nghaerdydd. Cyfle i rhai chwaraewyr eraill i gymeryd mantais o'u habsenoldeb.

Dechreuodd Felin yn debyg i sut wnaethon nhw yn Llanerchymedd y llynedd yn sgorio dwy gol yn y pum munud gyntaf. Chris "you get me fam" Brown sgoriodd y gyntaf ar ol gwaith da gan Gruff "yr eog anabl" John. Yr ail yn dod gan Iwan "David Shinola" Bonc, C2daB yn creu'r gol y tro hwn.

Ar ol dechrau mor dda daeth Llan yn ol i'r gem yn yr un modd a llynedd ond y tro hwn roedd Felin dal yn rheoli'r gem gyda Jukes y gol geidwad yn rhoi arbediadau gwych. Roedd hi'n gorfod bod yn gol eithaf sbeshal i Felin gael heibio Jiwcs ar gyfer y drydedd. Dim lwc yn hon wrth i Iwan Bonc grymanu'r bel o tu allan y cwrt cosbi i dop cornel y rhwyd.

Hanner Amser 0-3

Dechreuodd Felin yn dda ar ol hanner amser. Cafwyd gol gynnar gan Cra Bra, bron o'r gornel. Cue Celebration! Dyma hi wedyn yn dod yn gystadeluaeth rhwng Hatton "un o'r bwrdd class clai yn Bull" a Connor "he bounced off me didn't he lad" i dderbyn y cerdyn melyn gyntaf. Hitman yn fuddigol yn absenoldeb Iwan Eds.

Daeth Jordan "sgils amazing (mewn llais Gwil John)" Pritchard ymlaen yn lle Cra gyda hanner awr i fynd. Christopher B yn cymeradwyo'r dorf oedd ar eu traed yn barod heblaw am y rhai yn y "stand". Yn fuan wedyn gafodd Ryan "he's got one foot and one foot only" Cain rhediad gwych yn gadael dau chwaraewr Llan yn stond cyn rhoi'r bel yn bell dros y bar gyda'i droed dde.

Cafodd Carwyn "Teenage Dirtbag" Dafydd deg siawns i sgorio yn yr ail hanner, pump ohonynt gyda Jux yn cael nap ar lawr. Ciciodd Car y post mewn rhwystredigaeth. Gyda chwarter awr o'r gem yn weddill daeth Aled Em ymlaen i rhoi gwers ar sut i sgorio i Carwyn. Yn dilyn camgymeriad gan Jewcz, manteisiodd Jordan ar y cyfle i groesi'r bel i ganol y cwrt cosbi. Aled Em yn sgorio gyda'i siawns cyntaf. Gyda pum munud o'r gem yn weddill daeth Dion Shait ymlaen, y dorf yn cyffroi wrth iddo wneud "Beaumaris turn" yng nghanol cae cyn colli'r bel a cael ei megio...

Y Sgor derfynnol Llanerchymedd 0-5 Felinheli

Felly Canlyniad da arall i Felin. Gyda chwaraewyr ar goll roedd y garfan dal yn gryf a'r hogiau wedi gweithio'n galed i gipio'r tri phwynt. Pawb yn ol i Fic oedd hi wedyn ar gyfer "Surprise Party" Lenny! Fel ddywedodd Dr. Kevin Parry "Os ma un ona chi yn gael surprise party peidiwch a deud wrth Crow". Diolch Kev, nai gofio hynny pan dwi'n trefnu surprise party fy hun...

Report by Aled Em. Videos by Jack Cain. Pictures by Eifion Williams.

Line-up

Marc Wyn
Ryan Cain
Dyl Jnr
Ifan Em
Hitman
Sgil
Con Japh
Gruff John
Carwyn Dafydd
Iw Bonc
Chris Brown

Aled Em (on for Carwyn Dafydd)
Ifan Roberts
Shait (on for Sgil)
Dyl Bonc
Jordan Pritchard (on for Chris Brown)

MOTM - Gruff John