general-home

 

badgebadge

SATURDAY 07 OCTOBER 2017, 14.30
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Cae Seilo
Attendance: 50

Y Felinheli

Dan Hughes 35'

1 - 3

Glan Conwy

Jamie Jones 51'
Jamie Jones 68'
Chris Lloyd 82'

 

Welsh only available ...

Yn dilyn canlyniad bosetif oddi gartref i Lanfairpwll wythnos diwethaf, roedd pawb yn edrych mlaen i groesawu Glan Conwy i Gae Seilo ar ddydd sadwrn gwlypa'r tymor hyd yn hyn, tywydd ideal i lanhau battlefield stains bloodbath Ifan Em o bythefnos nôl!

Er bod sgwad cryf ar gael i Euron heddiw, roedd y pwyllgor chydig yn "dena" (dim yn lythrenol...obviously), roedd Rich ar ei dravels, Leni di cymeryd y missing in action baton drosodd gan Gwion Ffarmwr, Gwil John yn Kiev, ar ei ffordd adra o Georgia, a Sgiff yn crafu scabs rabies tra'n cael cheeky sesh fo Sdal a'i debyg yn Fic!

Hanner cynta reit even steven i ddeud y gwir, dim gymaint a hyny'n cael ei greu, tra bod y glaw yn cael efgaith amlwg ar ansawdd y chwarae. Wedi dweud hyn, Felin yn cymeryd y blaen rôl tua hanner awr, ergyd wych gan Dan i gornel dop yr rhwyd o tua 20 llath.

1-0 Felin hanner amser

Neges hanner amser oedd i barhau i bwyso, a mynd am fuddigoliaeth bwysig yn erbyn y tîm oedd ail yn y tabl.

Er ymosodiad, a croesiad i'r bocs gan Ryan Cain, gwrth-ymosodiad gwych gan Glan Conwy, a Jamie Jones yn rhwydo. 1-1

Gafodd Felin un ne ddau o gyfleon, ond oedd gôl-geidwad Glan Conwy yn barod am bopeth, a Glan oedd yn edrych fwy tebygol o sgorio. A felly fuodd hi, Jamie Jones yn ei gwneud hi'n 1-2 ryw ugain munud yn ddiweddarach.

I fod yn onest, doedd dim llawer o siap dod yn nôl ar Felin, ac yn dilyn chydig o gardiau melyn hollol ddi-angen, rhoddodd Glan Conwy ddiweddglo i ddiwrnod diflas felin drwy ychwanegu trydydd gôl tua 5 munud o'r diwedd. Pasio gwych rhwng 3 chwaraewr gorau'r ymwelwyr. Sgôr terfynol 1-3.

Ddim i fod heddiw, Ond codi pen a symud mlaen. Awê i Meliden wythnos nesa yng nghwpan y gynghrair.

Gwersi o'r diwrnod:

Osnam point llechio umbrella mewn frustration os dio ar agor (neith o mond floatio)

Di Sdal methu actio'n sobor rôl cael cheeky few bevies yn Fic.

Snam point neud effort i werthu pwls bach o dan ymbarel Sel Bethesda, just i adael o allan yn glaw wedyn!

Osnam to bach ar e yn Sel. Sêl fysa fo wedyn, fatha ' sêl gîst car'

Oedd Archie methu ddisgwl mynd i Gaerdydd i chwilio am cheeky blozza

Report by Dyl Bonc. Video by Jack Cain.

Line-up

Marc Wyn
Ryan
If Em
Fish (c)
Hatton
If Daf
Con
Joni
Iw Eds
Iw Bonc
Dan

Cra
If Roberts
Tom
Mart
Gwi Ffarmwr
Dyl Jnr

MOTM - Dan