120817-a

 

badgebadge

SATURDAY 12 AUGUST 2017, 14.30
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Lon Groes
Attendance: 100

Gaerwen

0 - 4

Y Felinheli

Iwan Owen 12'
Iwan Owen 34'
Gruff John 43'
Gruff John 53'

 

Welsh only available ...

Buddugoliaeth dda i ddechrau'r tymor

Dechreuodd ail dymor Felin yng Nghynghrair Undebol y Gogledd Adran 2 gyda buddugoliaeth gyffyrddus yn y Gaerwen.

Er bod nifer o'r hogiau ar goll oherwydd dyletswyddau Eisteddfodol, roedd gan Felin dim cryf yn ogystal â hogiau profiadol ar y fainc. Llwyddodd Ifan Em i gyrraedd gyda 5 munud i fynd tan y gic gyntaf diolch i Islwyn 'Hamilton' Bonc.

Roedd Felin yn curo'n gyffyrddus 3-0 ar yr hanner gyda dau gôl gan Iwan Bonc, un ergyd wych o ongl anodd ac un gic i do'r rhwyd o ddwy lath, ac un gôl tebyg gan Gruff John ar ôl i Danny hitio'r postyn.

Daeth y tîm cartref allan ar ôl yr egwyl fel tîm gwahanol efo egni a brwdfrydedd gan roi Felin o dan bwysau am y chwarter awr gyntaf. Er hyn, arhosodd amddiffyn Felin yn gadarn gan gyfyngu Gaerwen i ychydig o ergydion o bell yn unig.

Ar ôl goroesi'r cyfnod o bwysau yma, dechreuodd Felin ymlacio a cadw'r bel yn well. Cyn yr awr, ennillodd Felin gic gornel. Croesiad gan Iwan Eds tuag at Ifan Em ar y postyn cefn yn cyrraedd Gruff John ar y postyn blaen a beniodd y bel yn gelfydd i gefn y rhwyd.

Er i Gaerwen gael cyfleuon tuag at ddiwedd y gem a orfododd cwpl o arbedion penigamp gan Marc Wyn Jonesss, roedd canlyniad y gem yn anochel ar ol pedwerydd gôl Felin.

Dechrau da i'r tymor ond mae lle i wella a bydd yn rhaid codi gem yn erbyn Blaenau Ffestiniog nos Fercher y 16eg yn dilyn eu buddigoliaeth o 7-0 yn erbyn Bae Cemaes. Dewch draw i gefnogi'r hogiau yn y gem gyntaf ar Gae Seilo y tymor yma. Cic gyntaf am 6.30yh.

Report by Ifan Em. Videos by Jack Cain. Pictures by Eifion Wyn Williams and Gaerwen FC.

Line-up

Marc Wyn
Fish
Ifan Em
Martin
Gwion
Ifan Dafydd
Con Japh
Iwan Eds
Iw Bonc
Joni
Danny

Sgil (on for Iw Bonc)
Chris (on for Danny)
Hatton (on for Martin)
Euron

MOTM - Iwan Eds

Click here to see pictures of the game