160817

 

badgebadge

WEDNESDAY 16 AUGUST 2017, 18.30
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Cae Seilo
Attendance: 60

Y Felinheli

Iwan Owen 2'
Gruff John 20'
Gruff John 40'
Ifan Dafydd 48'
Own Goal 54'
Dan Hughes 65'
Ifan Dafydd 76'
Gruff John 82'

8 - 1

Blaenau Ffestiniog Amateurs

Gareth Hughes 47'

 

Welsh only available ...

Blaenau Ffestiniog gafodd y pleser o chwarae y gem gyntaf ar gae Seilo yn nhymor 2017/2018. Yn dilyn gwaith da gan rhai o’r hogia y noson cynt, roedd y cae yn barod am y tymor er gwaetha’ peiriant torri gwair Dafydd pin yn chwythu fyny ychydig o ddiwrnodau ynghynt.

Wedi dechrau delfrydol yng Ngaerwen ar y penwythnos, roedd yr hogia’n gwybod bod angen cadw’r momentwm i fynd yn erbyn tim Blaenau a oedd wedi ennill 7-0 yn eu gem gyntaf. Mae gemau ‘midweek’ yn gallu bod yn ddipyn o boen weithiau a dwi’n siwr bod hogia Blaenau ddim yn rhy hapus o weld bod angen teithio i Felin ar nos Fercher. Ond fel’na mae hi.

Gyda Euron ar ei wyliau, yr hen ben Islwyn Bonc gymerodd cyfrifoldeb am y gem (ac am y reff). Dechreuodd Felin yn sydyn gan sgorio o fewn 2 funud o ddechrau’r gem. Iwan Gwil (Bonc) yn ddigon sharp i fanteisio ar gamgymeriad amddiffynwyr Blaenau ac yn gorffen yn daclus. Iw Bonc yn creu yr ail gol gyda fflic on o un o giciau hir Marc Wyn i roi Gruff drwodd ac yntau’n rhoi’r bel dros ben y goli. Roedd pryder mawr ychydig o funudau wedyn pan aeth Gruff i lawr ar ol disgyn yn gam a rei ysgwydd. Ond ar ol ice pack Eifion a meddwl am eiriau doeth Hatton (man up) roedd o nol ar ei draed. Daeth cyfnod cryf gan Felin ar ol hyn. Mathew ‘twinkletoes’ Fish yn creu hafoc lawr yr ochr chwith a rhediadau gwych gan Iw Bonc a If Daf Drws Nesa, a chyn bo hir roedd hi’n 3 i Felin. Croesiad Iw Bonc i Gruff sgorio……Na? Ok ta, ddudwn ni dummy anhygoel gan Gruff yn gadael amddiffynwr Blaenau hefo dim opsiwn ond gwyro’r bel i rwyd ei hun. Daeth ychydig o bwysau gan Blaenau erbyn diwedd yr hanner yn dilyn ffowl neu ddeg gan Martin! Ond roedd Martin a’i gyd-amddifynwyr yn ddigon trefnus i ddelio a’r perygl. Felly mynd fewn hanner amser gyda’r un sgor ag hanner amser Dydd Sadwrn. 3-0.

Roedd Felin yn benderfynol o gario perfformiad cryf yr hanner cyntaf i mewn i’r ail hanner. Ond dechrau uffernol i’r hanner a fuodd. Cic rydd o’r hanner yn canfod chwaraewr Blaenau yn y bocs i benio i gornel y rhwyd. Lwcus felly bod Ifan Dafydd Drws Nesa dal efo dipyn ar ol yn yr injan a thorri fewn o’r ochr dde i orffen yn wych i gornel isa’r rhwyd ychydig funudau wedyn. Ond doedd Felin ddim am iddi orffen fel hyn a’r hogia yn gweld mwy o gôls yn y gem yma. Iwan Eds yn mynd heibio riw 3-4 o amddifynwyr yn hawdd, rwbath tebyg i sut mae Dembele yn ei wneud i Spurs, ac yn rhoi croesiad odd yn amhosib i hogia Blaenau ddelio hefo. Own goal arall oedd y canlyniad a’r noson yn mynd o ddrwg i waeth i amddiffynwyr Blaenau. Danny odd y nesa i ddechrau ei tally ar gyfer y tymor. Tîn Chris Hughes allan cyn troi’r amddiffynwr a trademark Danny Hughes finish sef chwalu hi i gornel isa’r rhwyd. Gôl i blesio Rich Humphs oedd hi nesa. Hogia Llys Meirion yn cyfuno gyda Iwan Eds yn anelu cic cornel syth i ben y boi lleiaf ar y cae – y Llys Meirionwr arall, Ifan Dafydd Drws Nesa a hwnnw’n gwneud dim camgymeriad. Roedd hyd yn oed y reff wedi joio hedar IDDN. Target man newydd o set pieces? Daeth un gôl arall cyn ddiwedd y gem. Iwan Bonc eto yn ffeindio’I hun mewn safle peryg i anelu am Mereds yn y bocs ond y bel yn dod oddi ar Mereds a’r amddiffynwr ac yn syth i draed Gruff i gael ei gorffen hi. Er bod Blaena’ yn bendant o gael o leiaf un gôl yn ol, roedd arbedion gwych Marc Wyn a thaclo caled Connor (future club captain) yn ddigon i wneud yn siwr bod sgor Blaenau yn aros yn 1. Ychydig o handbags cyn ddiwedd y gem yn gorfodi i’r dyfarnwr estyn am ei gardiau. Cwpwl o ffowls gwirion gan y ddau dim ac ychydig o bwshio o gwmpas a ballu. Dim byd mawr ond y neges gan Islwyn bonc a Leni ar yr ochr oedd i orffen y gem gyda 11 chwaraewr. A dyna ddigwyddodd diolch byth (roedd Martin wedi cael ei sybio erbyn hyn). Canlyniad terfynol - 8-1 i Felin.

Perfformiad a chanlyniad gwych i ddilyn Dydd Sadwrn. Mae’n siwr bod y ‘steddfodwyr yn difaru dewis prioritisio mynd i wylio Eden dros Gaerwen away - bydd angen iddynt weithio’n galed iawn i ddod nol mewn i’r tîm.

Ffeithiau’r diwrnod:
• Mae Felin wedi sgorio yr un nifer o goliau ar ol 2 gem gynghrair y tymor hwn ag yr oeddem ar ol 7 gem gynghrair y tymor diwethaf
• Mae Rich Humphs yn joio gôl gan hogia Llys Meirion hyd yn oed yn fwy na gôl gan Ifan ‘he scores when he wants’ Emyr
• Mae hi rhwng Martin a Iw Eds am y mwyaf o gerdiau melyn am y tymor. Ar y rate yma, bydd Martin yn gorffen y tymor gyda 30 cerdyn ac Iwan Eds hefo 15
• Mae air pollution Felin wedi cynyddu 350% ers i Dafydd Pin dorri 5m2 o’r cae nos Lun

Report by Gruff John. Videos by Jack Cain. Picture by Rich Humph.

Line-up

Marc Wyn
Fish
Ifan Em
Martin
Gwion
Ifan Dafydd
Con Japh
Iwan Eds
Iw Bonc
Joni
Danny

Sgil (on for Ifan Dafydd)
Chris
Hatton
Mereds (on for Danny)
Ryan (on for Martin)

MOTM - Danny