240318-a

 

badgebadge

SATURDAY 24 MARCH 2018, 14.30
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Cae Seilo

Y Felinheli

Jordan Pritchard 89'

1 - 4

Amlwch Town

Dewi Thomas 26'
Luke McGivern 71'
Sam Carter 79'
Joshua Griffiths 83'

 

Welsh only available ...

Gyda llawer o’r garfan i ffwrdd yn mwynhau Tseina, Dublin 3pm, camp America reunions a.y.y.b roedd cyfle i rhai i greu argraff yn erbyn Amlwch yn Seilo.

Shait yn dechrau am y tro cyntaf y tymor hwn a Sgil yn ol yn y tim yn lle Ryan (like for like felly...). Dechreuodd Felin yn dda, yr amddiffyn yn gadarn, ond ar ol chwarter awr, trychineb... Shait yn benderfynol o beidio gwneud camgymeriad a’n clirio’r bel dros y wal a mewn i cabij patch y dyn drws nesa. Pel arall wedi mynd a Dyl Bonc yn wallgof.

Pum munud yn ddiweddarach ac aeth pethau o ddrwg i waeth i Shait. Yntau’n clirio’r bel o’r amddiffyn cyn troi ei droed. Sgil yn rhoi “anogaeth” iddo ar y cae wrth iddo geisio cario mlaen, ond roedd rhaid newid pethau. Gwion Tegid ymlaen yn ei le. Capten y clwb Fish yn mynd i gysuro Shait yn y dugout. Cyfraniad cyntaf Tegid oedd clirio’r bel a gwaeddi mor uchel nes i Gwion Hallam ddeffro o’i siesta ochr arall i’r pentref.

Sgoriodd Amlwch yn fuan ar ol i’r eilydd ddod ymlaen. Yr amddiffyn diarth wedi drysu. Daeth Felin yn ol i’r gem ond methu ffeindio’r rhwyd a’r sgor ar yr hanner yn 0-1.

Dechrau da arall i’r ail hanner gan Felin ond Dan & co methu’n glir a sgorio. Sgoriodd Amlwch 2 gol sydyn i wneud hi’n anodd iawn i Felin ddod yn ol i’r gem. Roedd y trydydd yn un amheus ofnadwy wrth i chwaraewr Amlwch ddringo dros Gwion Tegid i benio’r pel i gefn y rhwyd. Y dyfarnwr rhy brysur yn pigo’i drwyn i weld y trosedd. Daeth Sgil yn agos i sgorio... i Amlwch... ond Marc yn gwneud arbediad gwych. Iwan Bonc yn gadael y maes a Jordan yn dod ymlaen i geisio cynnig rhywbeth gwahanol.

Sgoriodd Amlwch un arall sydyn gyda 10 munud i fynd i ladd y gem. Last throw of the dice i Euron, ag Al Em ymlaen yn lle Sgil. Newid o 4-3-3 i 3-5-2. Gwaith da gan chwaraewyr canol cae Felin yn darganfod Dan yn y cwrt cosbi, Dan yn ffeindio Jordan, a Jord yn ffeindio cefn y rhwyd. Daeth Jord yn agos eto yn y diwedd ond y gem yn gorffen 1-4.

Ffeithiau’r diwrnod:
• Fe ddaw Shait yn ol yn gryfach.
• Mae Fish wedi ymddeol i ganolbwyntio ar ei yrfa 5 bob ochr.
• Gwion Tegid methu coelio bod rhywun mor ifanc ag Ifan Dafydd yn cael reunion.
• Brysia wella bys Dyl Bonc

Video by Jack Cain. Pictures by Dyl Bonc.

Line-up

Marc Wyn
Sgil
Dyl Jnr.
Shait
If Em
Cra
Con
Iw Eds
Car Daf
Iw Bonc
Danny

Gwion Tegid (on for Shait)
Jordan (on for Iw Bonc)
Al Em (on for Sgil)

MOTM - Iw Eds

Click here to see pictures of the game