League Table 2017 - 2018

Welsh Alliance League Division 2

# Club Pl W D L F A +/- Points
1 Prestatyn Sports 28 24 3 1 117 30 87 72
2 Bodedern Ath 28 21 1 6 78 41 37 64
3 Glan Conwy 28 19 2 7 74 35 39 59
4 Llannefydd 28 15 7 6 65 35 30 52
5 Amlwch Town 28 16 4 8 67 48 19 52
6 Y Felinheli 28 16 1 11 71 49 22 49
7 Meliden 28 12 4 12 70 67 3 40
8 Gaerwen 28 12 3 13 47 58 -11 39
9 Aberffraw 28 11 2 15 53 61 -8 35
10 Penmaenmawr Phoenix 28 10 4 14 58 59 -1 34
11 Blaenau Ffestiniog 28 9 4 15 70 98 -28 31
12 Pentraeth 28 8 4 16 40 67 -27 28
13 Mochdre Sports 28 7 3 18 53 84 -31 24
14 Llannerchymedd 28 4 2 22 19 78 -59 14
15 Llanfairpwll 28 2 4 22 26 98 -72 10

-3 Prestatyn Sports

Welsh only available ...

Dyma gychwyn ail dymor yn Ail Adran Cyngrair yr Welsh Alliance, gyda Felin yn fwy ymwybodol o beth sydd o’u blaenau, ac efallai yn deall yn well beth sydd ei angen i fod yna mis Ebrill nesaf yn cystadlu am y teitl.

Cafwyd cyfres o gemau “ffrendlis” ddigon diddorol, yn cynnwys trip i chwarae Bow Street a noson hynod o ddifyr wedyn yn Aberystwyth. Mae honno yn stori ynddi ei hun ac efallai ddim yn addas i bapur bro parchus. Cafwyd gem yn Llanllyfni pan gafodd ddeg chwaraewr ei newid hanner amser, pawb ond y goli, ac ennill yn gyffyrddus.
Cychwyn y tymor go iawn ar ddydd Sadwrn Steddfod, oedd yn chydig o broblem, gyda buddugoliaeth 4-0 yng Ngaerwen. Ac yna ganol wythnos gyda pawb yn dechrau dod dros y Steddfod, curo Blaenau, tim oedd wedi ennill eu gem gyntaf 7-0, gyda’r llaw, o 8-1.
Gem hollol “bizarre” wedyn, and gollodd Felin 1-5 yn Seilo yn erbyn Penmaenmawr. Toedd y sgor, nag yn wir y pum cerdyn coch (pump, ia 5!) ddim yn adlewyrchu’r gem. Toedd hi ddim yn gem fudr, er rhaid dweud fod 3 cerdyn coch Pen ac un o rhai Felin yn ddigon teg. Gem hurt a gwirion, sydd angen tudalen gefn gyfan i ddweud yr hanes i gyd.

Colli canol wythnos yng Nglan Conwy 2-1, ar ol perfformiad amddiffynnol wych iawn, gol hwyr yn difetha petha. Daeth y newyeddion trist iawn am farwolaeth Al Wern yn ystod yr wythnos, a chafwyd munud o dawelwch er cof amdano cyn ddechrau gem yn Seilo yn erbyn Gallt Melyd (Meliden). Roedd Al a’r Fic wedi bod yn gefnogol iawn i’r clwb dros y blynyddoedd- dyn ffwtbol go iawn, o bydd colled enfawr i’r gymuned yn Felin ar ei ol. Ennill 3-2 gyda cig o’r smoty yn y munudau olaf yn cipio’r pwyntiau.

Trip i Benmaenmawr oedd gem “canol wythnos” olaf yr haf, anghyffredin braidd gorfod chwarae yr un tim mor fuan unwaith eto, a yn dilyn y gem “pum cerdyn coch”roedd potenshal i hon fod yn ymfflamychol. Toedd hi ddim, roedd Felin yn wych, a roedd hi’n wyrth mae dim ond 2-1 i Felin oedd y sgor terfynnol.

Nid oedd gem y Sadwrn canlynnol gan fod Cymru yn chwarae Awstria. Roedd rhan fwyaf o glwb Felin yno i weld buddugoliaeth bwysig iawn gyda Ben Woodburn yn dod ar y cae am y tro cyntaf a serennu. Hwn hefyd oedd diwrnod cynhebrwn Al Wern, a cafwyd munud neu ddau o dawelwch gan nifer o’r hogiau am 11:00, sef amser cychwyn y gwasanaeth yng Ngaernarfon.

Curo tim eitha gwan o Lannerchymedd 7-0 yr wythnos wedyn, canlyniad oedd yn rhoi Felin ymysg y ceffylau blaen. Gohirwyd y gem yr wythnos wedyn gan fod Mochdre yn gorfod chwarae gem Cwpan Cymru gafodd ei gohirio yr wythnos gynt. Bechod i ddweud y gwir- colli momentwn a ballu.

Ac yn ail rownd Tlws Cymdeithas Bel Droed Cymru, colli 3-4 gartref yn erbyn Llanystumdwy (sydd yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd, sydd yn is na chynghrair Felin). Roedd hon yn gem ychydig yn od hefyd, gyda Felin i fyny 2-0 ac yn tynnu y droed oddi ar y sbardur, a gadael i’r lleill orffen yr hanner 3-2 ar y blaen. Daeth hi yn ol i 3-3 cyn i Ifan Em gael anaf difrifol i’w ben- welodd neb ffashwn waed. Ail gychwynwyd y gen ar ol ryw 10 munud, ond roedd yr awyrgylch yn fflat, hogia Felin yn poeni am Ifan, a’r ymwelwyr gafodd y gol i gipio lle yn y rownd nesaf. Daeth y bobol ambiwlas ymhen hir a hwyr, a roedd Ifan yn ol yn Felin gyda bandej ar ei ben cyn ddiwedd y nos.

Trydydd ydi Felin yn y gynghrair ar hyn o bryd ac yn edrych yn dda, gyda Prestatyn Sports , Bodedern, a Glan Conwy yn edrych yn beryg.

Ar ol y siom o golli gartref i Lanystumdwy yng ngystadleuaeth Tlws Cymru, bownsio yn ol gydag arddeliad wnaeth Felin yr wythnos wedyn, yn curo Llanfairpwll 4-0 ar eu toman eu hunain. Hwn ydi trip byrraf Felin, ddim ond ryw gwpwl o filltiroedd ochor arall i’r Fenai, ac felly hwn ydi’r “local darbi” dyddiau yma. Mae’r hanes yn mynd ymhell rhwng y ddau glwb, gyda’r ddau yn aelodau gwreiddiol Cynghrair Gwynedd amser maith yn ol (wel, wythdegau y ganrif ddiwethaf beth bynnag). Nid oedd Felin ar eu cryfaf, gyda nifer o chwaraewyr ddim ar gael am wahanol resymau, ond braf oedd croesawu Gwion Tegid a Carwyn Dafydd yn ol ar ol cyfnod maith i ffwrdd yn dilyn anafiadau, y ddau yn dod ymlaen ryw chwarter awr cyn y diwedd.

Marc Wyn oedd y prysuraf o’r golgeidwaid yn yr hanner cyntaf, ond ar ol gol Iwan Bonc cyn hanner amser, a dwy arall yn yr ail gan Iw Eds a Gruff John, roedd y gem yn saff. A daeth y bedwerydd gol o groesiad Carwyn, y bel yn gorffen yn y rhwyd oddi ar un o hogiau Llanfair. Buddugoliaeth dda. Un arbennig i ddeud y gwir, o ystyriaed fod Felin wedi landio yn Llanfair heb y kit! Diolch byth mai hon oedd y gem oddicartref agosaf ynte.

Gem gynghrair arall yr wythnos wedyn yn erbyn Glan Conwy, un o’r ffefrynnau eleni am y teitl. Ac ar ol colli yno mis Awst, roedd Felin angen buddugoliaeth. Ond toedd hi ddim i fod, er i Danny rhoi Felin ar y blaen 1-0 hanner amser ar ddiwrnod gwlyb a diflas. Ond yn ol daeth Glan Conwy gyda tair gol yn yr ail hanner i gipio tri phwynt gwerthfawr, a cwblhau y dwbwl dros Felin (peth ddigon anghyffredin i ddigwydd i Felin yn y blynyddoedd diwethaf).

Nid oedd golgeidwad ar gael am y trip i lawr yr A55 i Allt Melyd yr wythnos wedyn- gem gwpan cynghrair “Take Stock Van Hire” i roi y teitl llawn. Yn dilyn
trafodaeth dwys yng nghar yr Is-reolwr, penderfynnwyd mai Gwion Tegid oedd i sefyll rhwng y pyst yn absenoldeb Marc Wyn, sgidai anodd i lenwi. Ond mi wnaeth yn o lew chwarae teg, er mai colli 1-2 wnaeth Felin ar ol bod ar y blaen, Martin yn sgorio. Cwpan Mici Mows oedd hi eniwe...

Ddiwedd corwynt Ophelia oedd hi yn Allt Melyd, a storm Brian oedd hi yn
Amlwch yr wythnos wedyn, a oedd ddigon drwg i ganslo’r gem. Mae’r gaeaf yn dod.

Roedd Felin dal yn drydydd yn y gynghrair tuag at ddiwedd Hydref, ond mae angen i rywun guro Prestatyn Sports (sydd yn lwcus eu bod dal yn y gynghrair ar ol cael eu diarddel cyn ddechrau’r tymor oherwydd cyflwr eu cae, ond yn ennill apel). Glan Conwy sydd ar y brig ond wedi chwarae mwy o gemau na’r lleill. Ac mae Amlwch a Bodedern yn edrych yn beryglus.

Mewn tair gem ddiwedd Hydref/ ddechrau Tachwedd, sgoriodd Felin ugain (20) gol heb adael yr un i fewn!

Cafwyd 5 oddi cartref yn Llannerchymedd, a gyda’r sgor yn 0-2 ar ol 4 munud, roedd darogan y buasa’r sgor terfynnol yn 45-0 ar y rêt o ddwy gol pob dau funud! Ond osgoi hynny wnaeth Llan drwy dynhau ychydig ar yr amddiffyn. Chris Brown yn cael dwy, Iwan Bonc dwy, ac Al Em yn dilyn gwaith da gan seining newydd Jordan Pritchard. Roedd y gwynt yn oer tua canol Sir Fon ‘na, a chydig iawn o gysgod. Ond pum gol yn cynhesu’r enaid.

Toeddan nhw ddim yn dîm da, ond roeddynt tipyn gwell na Cemaes yr wythnos gynt, er fod saith chwaraewr ar goll am wahanol resymau o dîm cymharol wan yr ymwelwyr eniwe, felly roedd colli yn drwm yn anochel. Ond roedd eu curo 11-0 chydig yn embaras i ddweud y gwir.

Ond roedd trip i Fochdre yn stori wahanol. Roedd rhain yn dîm o hogiau mawr cryf, ac yn debygol gymeryd pwyntiau oddi ar unrhyw dîm. Felly pan lwythodd pawb ar y bws y tu allan i’r Fic tua hanner dydd, toedd neb yn disgwyl gêm hawdd. MI sylwch fod bws wedi’i drefnu i’r gêm arbennig hon- roedd angen trip ar y clwb ,a Mochdre oedd yr unig le yn rhestr y gemau cyn Dolig lle roedd sgôp am dipyn o hwyl ar y ffordd adra. Mae hefyd clwb efo bar wrth ymyl y cae, felly roedd y cefnogwyr yn eithaf hapus gyda’r sefyllfa.

Toedd yr hanner cyntaf ddim yn hawdd, gyda peli uchel i flwch cosbi Felin yn creu trafferthion, ond goroesodd amddiffyn Felin ac erbyn diwedd yr hanner, Felin oedd y tim oedd yn chwarae peldroed o safon. Ac yn llawn haeddu bod ar y blaen 1-0 gyda gol munud cyn y chwiban gan Gruff yn dilyn symudiad slic iawn gan y tîm. Ddigon tebyg oedd yr ail hanner, gydag unig fygythiad Mochdre yn dod o beli uchel i’r bacs, ond roedd Fish a Dylan yn y canol yn gadarn ac yn gryf. Jest as wel, medda rhai, gydag Ifan Emyr wedi colli ei awyren adra o Baris ar ol bod ar ddyletswydd rhyngwladol, a chael eitha clec ariannol o’r herwydd (na, ddim ffein gan y clwb).

Hanner ffordd drwy’r ail hanner, derbyniodd Carwyn y bel tu allan i’r blwch cosbi a dyma fo yn tarannu perl heibio golgeidwad y tim cartref i’w gwneud yn 2-0. Torodd hon galonnau hogia Mochdre, a chwe munud yn ddiweddarach aeth yr hoelen olaf i’r arch pan sgoriod Iwan Bonc gol daclus iawn i roi Felin 3-0 ar y blaen a lladd y gêm i pob pwrpas. Ac i goroni perfformiad gwych, sgoriodd Iwan ei ail, yn dilyn i fyny ei ergyd wreiddiol a aeth yn erbyn y postyn- gôl ac asist iddo fo’i hun i’r hogiau sydd yn cystadlu yn y ffantasi lîg! Felly roedd y 4-0 yma yn werth tipyn mwy na’r ddau canlyniad blaenorol, er mai tri phwynt ‘run fath oedd Felin yn gael. Roedd y canlyniad yn rhoi neges i’r gweddill fod Felin o ddifri eleni.

Un bach sydyn yn y bar efo brechdan jips cyn llwytho ar y bws a mynd am Landrillo yn Rhos i ryw le yn fan honno i wylio Cymru yn colli eto i Awstralia yn y rygbi. Bu cystadleuaeth darogan y sgor, wrth gwrs (ffordd dda o godi arian i dalu am y bws). Danny ennillodd. Ond Euron y rheolwr gafodd y wobr am y sgor mwyaf diddorol, 0-0 (ffwtbol ydi ‘i betha fo wedi’r cwbwl). Stop arall wedyn yng Nghonwy lle bu digwyddiadau niferus- dim byd yn seriws rhaid ychwannegu. Ddaliodd pawb y bws adra beth bynnag.

Amlwch oddi cartref oedd y sialens nesaf. Hon hefyd yn gêm anodd. A toedd rhoi gôl ar blat iddyn nhw yn y deg munud cyntaf ddim yn help i’r achos- camgymeriad anghyffredin yn yr amddiffyn. Daeth Felin yn gyfartal ddiwedd yr hanner cyntaf gyda Iw Bonc yn sgorio, i roi sgor 1-1 ddigon teg, i drafod dros baned hanner amser yn oerni Lon Bach. Ond aeth hi’n 2-1 i Amlwch yn gynnar yn yr ail hanner, ac er fod Felin wedi pwyso yn ddi-drugaredd yn yr ugain munud olaf, ofer fu eu hymdrechion. Anlwcus efallai, mewn gem allai fod wedi mynd unrhyw ffordd. Roedd dathliadau Amlwch yn dangos pa mor bwysig oedd y tim cartref yn gweld curo Felin. Cafwyd llwyth o bizzas yn nhafarn y Farchnad ar ol gêm. Buasa trafod bwyd mae rhywun yn gael ar ol gêm mewn gwahaol lefydd yn destyn traethawd hir i rywun, dwi’n siwr. Heb fod yn gas efo neb, ond sothach ydio fel arfer. Neith rwbath y tro mewn rhan fwyaf o lefydd. Heblaw y Fic wrth gwrs, lle mae bwyd ffantastic i’w gael, a digon ohono fo, i’r chwaraewyr a phawb arall sydd yno. Pwy sydd yn fansi PhD ta..?

Bu rhaid gohirio gêm gartref tyngedfennol yn erbyn Bodedern oherwydd cyflwr gwael y cae yn Seilo.

Rhaid llongyfarch Ifan, un o newydd-ddyfodiaid ddechra’r tymor, ar ol derbyn ei gap cyn gêm Cymru Paraguay yn ddiweddar, ar ol ymddangos i dîm anabledd clyw Cymru. Da iawn Ifan. Dechraeodd hyn ddadl ar bwy o gyn chwaraewyr Felin oedd wedi cael cap heblaw am Ifan. Wel, Terry Boyle cyn amddiffynnwr tim cyntaf Cymru yn un- chwaraeodd un gêm i Felin (colli tua 8-0 os dwi’n cofio!). Ac Euron y rheolwr, oedd yn sydyn iawn i’n hatgoffa, gyda chapiau lefel ysgol. Pwy arall? Gadewch i ni gyd wybod. Fyddai wedi pechu rhywun ma’n siwr...
Glan Conwy sydd ar y brig ar hyn o bryd, one wedi chwarae mwy na phawb arall. Ac mae nhw wedi colli yn annisgwyl yn ddiweddar- Cemaes yn eu curo (ia! Y tim gafodd hamrad 11-0 yn ddiweddar). Ac mae Prestatyn dal heb golli yn ail, ac wedyn Felin ac Amlwch yn cael eu gwahanu gan wahaniaeth goliau (roedd yr 11-0 yn reit handi).

Mae byw yng Ngogledd Cymru yn ddifyr iawn, ond mae tebygrwydd uchel iawn o gael glaw, toes. A pan mae hwnnw yn drymach nag arfer, mae gemau peldroed yn cael eu gohirio. Ond fel roedd hi’n digwydd, nid oedd gemau wedi eu trefnu i Felin ar ddau dydd Sadwrn, er mae hi’n anhebygol y buasai Felin wedi chwarae beth bynnag oherwydd y tywydd. Chwaraeodd Felin un gem yn unig ym mis Rhagfyr, yn curo ein cymdogion agos Lanfairpwll o 5-0. Eira oedd y broblem yr wythnos wedyn, gyda’n gêm yng Ngronant yn erbyn Prestatyn Sports yn cael ei gohurio. Gêm bwysig iawn, gan nad yw neb wedi eu curo eto, ac mae angen i hynny ddigwydd os ydi Felin am wneud rhywbeth ohoni.

Nid oedd gêm yr wythnos wedyn gan fod ein gwrthwynebwyr wedi gofyn am Sadwrn heb gêm, ac nid oedd gem i neb y Sadwrn wedyn, sef y diwrnod ar ol “Gwener Gwirion”, sydd yn draddodiad bellach ac yn syniad reit dda gan y gynghrair i ddweud y gwir. Buasai yna ddim llawer o siap chwarae peldroed ar neb. Ac ar Sadwrn olaf y flwyddyn, gohirwyd trip i Flaenau Ffestiniog oherwydd cae gwlyb. Os oedd hi am fwrw yn rhywle, wel Blaenau oedd hynny te. Roedd gemau y Sadwrn olaf yma i fod yn “local derby” fel sydd yn draddodiad yn y byd peldroed (Celtic Rangers, Spurs West Ham, ac yn y blaen). Felly trip i Flaenau…….? Mae’n debyg mai dau dim o Gwynedd sydd yn y gynghrair, ac mai hon oedd “derby” Gwynedd mae’n siwr. Ond roedd pawb reit hapus teithio ac wedi siomi pan ddaeth y newyddion fod y gem wedi’i chanslo ar ol ail archwyliad cae.

Dan amgylchiadau arferol, mae’n debyg na fuasai gem Llanfairpwll wedi ei chynnal yn Seilo ddechrau’r mis, ond nid oedd gem arall yn Seilo ar ol hon tan y flwyddyn newydd, felly cytunwyd i’w chwarae, er fod y cae yn debygol o gael ei hambygio. Oedd, mi oedd y cae yn fes llwyr erbyn diwedd y gêm, ond tri-phwynt eitha cyffyrddus a gem arall o’r ffordd. Ifan Emyr, Gruff, Iwan Bonc (2), a Danny oedd y sgorwyr.

Felly ar ddiwedd 2017, mae Felin yn eistedd mewn lle ddigon hwylus yn bedwerydd yn y tabl, wedi ennill 5 a cholli 2 gartref , ac union yr un fath oddicartref. Nid yw’r tabl yn hawdd iawn i’w ddehongli ar hyn o bryd gan nad yw y timau wedi chwarae’r un nifer o gemau. Felly mae Glan Conwy ar y brig 13 pwynt ar y blaen o’r nesaf. Ond yn wahanol i Man City, mae hw wedi chwarae llawer mwy o gemau na neb arall. Gwell cael pwyntiau yn y bag medda rhai ac efallai fod hyn yn ddigon teg mewn cynghrair cystadleuol fel hwn. Ond o edrych ar bethau mewn ffordd chydig yn wahanol, gyda “pwyniau/ gêm”, efallai fod y llun chydig yn gliriach. Mae hi’n ymddangos mai Prestatyn a
Bodedern ydi’r timau i’w curo felly:

Mae hi lawr i un gem y mis mae arnai ofn, felly byr iawn fydd y golofn yma nes daw’r gwanwyn, beryg. Colli yn drwm ym Modedern ar Sadwrn cyntaf y flwyddyn, 4-0, pum wythnos ar ol y gem ddiwethaf ar Sadwrn cyntaf Rhagfyr. Toedd diffyg gemau ddim yn esgys chwaith gan fod Bodedern wedi bod mewn sefyllfa ddigon tebyg. Chwaraeodd Felin yn wael, a toedd ddim esgys. Roedd yr hogiau yn cyfaddef hynny. Mae Bodedern yn edrych yn beryg, ddim ond wedi colli un gem gyda nifer o gemau mewn llaw ar y clybiau uwch eu pennau yn y gynghrair, ond toedda nhw ddim mor dda a hynny. Ond yn saff, tydi diffyg amser ar y cae ddim yn helpu Felin.

Gohirwyd gem ym Mhentraeth yr wythnos canlynnol, ac yna nid oedd yn bosib chwarae yn erbyn Llanfairpwll yn Seilo ar y ddau Sadwrn canlynnol oherwydd cyflwr mwdlyd y cae. Yn wir, gofynnodd Felin os oedd hi’n bosib chwarae yn Llanfair ond yr un oedd cyflwr y cae ochor arall i’r Fenai. Gem gwpan “Mawddach” oedd y rhain, sef cwpan cynghrair sydd yn cynnwys clybiau y ddwy adran. Mae gwobr ariannol da i’w gael yn y gwpan yma i’r rhai sydd yn cyrraedd y pedwar olaf, felly mae trysorydd y clwb yn awyddus i wneud argraff go lew yn y gystadleuaeth . Mae cyfle hefyd wrth gwrs i gael chwarae yn

erbyn clybiau o’r adran gyntaf, i gael gweld faint o wahaniaeth safon sydd yna rhwng y ddwy adran. Bydd y gem yn erbyn Llanfair wedi ei symud yn swyddogol i gae Llanfair yr wythnos nesaf gan fod rheol y gynghrair yn dweud mai hynny sydd yn digwydd os yw’r gem wedi gohirio ddwywaith. Y ffordd mae pethau’n mynd, fydd y gem yn ol yn Seilo o fewn rhyw bythefnos.

Yr unig beth i’w wneud ydi ymarfer yn galed, fel mae hogiau Felin yn gwneud ddwywaith yr wythnos, a gobeithio fydd y tywydd yn gwella. Ond mae’r hogia i gyd wedi mynd yn reit ffrystrêtyd. Dim ots pa mor ffit ydi rhywun, mae ffitrwydd chwarae gêm yn wahanol rywsut.

Nid yw’r gynghrair yn hawdd ei ddehongli ar hyn o bryd, gan fod gymaint o wahaniaeth yn y gemau a chwaraewyd gan y gwahanol glybiau. A tydi gemau cwpan wedi eu gohirio ddim yn helpu’r sefyllfa. Mae hi’n edrych fel mis Ebrill a Mai prysur iawn i bawb, unwaith fydd y clociau yn troi a’r dydd yn ymestyn, wrth drio cwblhau yr holl gemau.

Cwpwl o ystadegau a ffeithiau i chi-
Felin ydi’r unig dîm yn yr ail adran i beidio cael gem gyfartal, hyd yn hyn y tymor yma
Mae Felin wedi sgorio bron iawn i bedair gôl y gem ar gyfartaledd
Mae Felin wedi ennill union 2 bwynt y gem ar gyfartaledd, i fyny at ddiwedd Ionawr
Mae cornel top cae Seilo yn 5 medr yn uwch na’r gornel agosaf i’r cwt newid (efallai ddim cweit hynny, ond ‘dachi’n gweld be dwi’n feddwl)
Daeth cwt newid Felin yn wreiddiol o iard rheilffordd Cyffordd Llandudno
A dyna ddigon o falu awyr...plis gawn ni weld chydig o ffwtbol mis nesaf ‘ma!

O’r diwedd, am y tro cyntaf ers canol Tachwedd, mae Felin wedi cael chwarae dwy gem yn olynol. Canol Chwefror ddigwyddodd y wyrth yma, oddicartref yn Llanfairpwll, a gartref yn erbyn Bodedern. Wrth gwrs, ni fu gem wedyn tan ganol Mawrth oherwydd y “Diawl o’r Dwyrain” neu bethbynnag oedd y storm yn cael ei alw- fel cosb am fedru chwarae ar ddau Sadwrn un ar ol y llall, ma’n siwr.

Hop bach dros y Fenai oedd y gem gyntaf ers 6 wythnos, a chafwyd gem bach reit neis i ddod yn ol i drefn, yn eu curo 5-0 yn rownd gyntaf cwpan Mawddach, sef cwpan y gynghrair i’r ddwy adran efo’u gilydd. Sgoriodd Carwyn ddwy, a Chris Brown ddwy, ac o fewn dau funud i ddod ar y cae fel eilydd, dangosodd Dan ei glàs drwy sgorio pumed gol Felin. Yn galonogol iawn, daeth Trystan Dafydd ar y cae am 20 munud ar ol cyfnod maith allan o’r gem gydag anaf drwg, a braf oedd ei gael yn ol.

Roedd gem yr wythnos wedyn yn fwy o sialens. Ar ol colli 0-4 i Fodedern ddechrau Ionawr (sef y gêm ddiwethaf ond un!), roedd angen eu curo i aros yn y ras am y teitl. A dyna ddigwyddodd- yn eu trechu 3-2. Gem dda iawn gyda chyfleon lawer i’r ddau dîm, gyda Marc Wyn yn gadarn iawn yn y gôl. Gyda Felin 3-1 ar y blaen, goliau gan Gruff (2) a Carwyn, cafodd Boded benalti go amheus i’w gwneud yn 3-2, a bu’r munudau olaf yn rhai hir iawn wrth i Felin ddal gafael ar eu mantais. Buddugoliaeth bwysig a haeddiannol.

Tair wythnos wedyn, ochor arall i’r tywydd mawr, rownd 2 Cwpan Mawddach oedd ar yr agenda yn erbyn Llandyrnog, sydd yn yr adran gyntaf. Toedd rheini ddim yn ffansio trip i Felin gan eu bod wedi trio cael y gynghrair i newid lleoliad y gem i Landyrnog, yn honni ar y dydd Gwener nad oedd y cae yn ffit. Digywilydd braidd, dachi ddim yn meddwl?

Ymlaen aeth y gem yn erbyn tim gydag amddiffyn trefnus a boi da iawn yp ffrynt (Mark Roberts). Sgoriodd Connor Japh (ar ddydd Saint Padrig) i ddod a Felin yn gyfartal. Toedd ddim llawer yn y gem, a gyda’r ymwelwyr i fyny 1-2 yn tynnu tuag at ddiwedd y 90 munud, roedd pawb yn meddwl o leiaf gawn ni fynd allan o’r gwynt dwyreiniol ofnadwy o oer i gynhesrwydd y Fic. Ond roedd gan Dylan syniadau gwell- dod a’r sgor yn gyfartal 2-2 a rhoi hanner awr arall o artaith i’r cefnogwyr! Nid oedd Felin yn haeddu colli, felly amser ychwannegol amdani. Gallai’r gem fod wedi mynd unrhyw ffordd, ond Llandyrnog gafodd y gol nesaf dyngedfennol gyda 7 munud yn weddill, a gyda Felin yn lluchio popeth i gael un yn ol, aeth hi yn 2-4 yn y funud olaf. Anlwcus, ond bonws bach nad oedd rhaid aros am giciau o’r smotyn! A diolch byth am longjohns.

Yr wythnos ganlynnol (ia- dwy gêm yn olynol eto) Amlwch oedd yr ymwelwyr i Seilo. Ond roedd llawer o ddewis cyntaf tim Felin ddim ar gael, ac er fod sgwad cryf, bu rhaid chwarae ambell un allan o’u safle arferol. Roedd hon yn gem bwysig hefyd gan fod Amlwch o gwpas yr un safle a Felin yn y gynghrair, ond colli 1-4 wnaeth Felin. Efallai fod y sgor chydig yn anheg, ond fel yna mae hi weithiau. Jordan Pritch yn sgorio tuag at ddiwedd y gêm, ei gol gyntaf i Felin- y cyntaf o nifer fawr gobeithio.

A newyddion drwg arall oedd ymddiswyddiad Cemaes o’r gynghrair. Nid yn unig am reswm personnol i’ch gohebydd (Matt LeTissier, Steve Bull, etc), ond y ffaith y bydd Felin yn colli mantais yn y gynghrair. Roedd yr 11-0 yn handi ar gyfer “gwahaniaeth goliau”, yn ogystal a’r ffaith i Gemaes gael gem gyfartal gydag Amlwch, a hyd yn oed curo y tim ar y brig Glan Conwy (sut, pwy a wyr!). Ond bydd canlyniadau Cemaes i gyd yn cael eu chwalu rwan a tabl y gynghrair yn cael ei newid.

Efallai cawn drydydd gêm ar y trot dydd Sadwrn nesaf, pwy a wyr, gydag Aberffraw acw.

Cafwyd trydydd gêm ar y trot ar ddiwrnod olaf Mawrth, pan sbwyliodd Aberffraw y parti dathlu (cael tair gem ar ol eu gilydd) gan sgorio yn y bumed munud o injyri teim. Siom braidd, colli dau bwynt yn eiliadau olaf y gem. Ond rhaid cyfaddef efallai fod y benalti gafodd Felin i fynd un ar y blaen ychydig yn ffodus, Gruff yn claddu y gic gosb.

Un wennol ni wna wanwyn, ac yn wir, gohirwyd y ddwy gem nesaf oherwydd eira yn ochra Prestatyn (!) a glaw yn Sir Fon. Ac anodd credu’r peth ond nid oedd gem wedi’i drefnu yn y ddau Sadwrn canlynnol, gyda Felin angen chwarae deg gem arall cyn diwedd y tymor. Deg gem chwaraeodd Felin ers ddiwedd Hydref (pum mis)! Ddigon teg fod y rhan fwyaf o glybiau wedi cael trafferth chwarae gemau y tymor yma, a fod trefnu yr holl gemau cyn ddiwedd y tymor (estynedig) ddiwedd Mai yn gur enfawr ym mhen y trefnwyr. Ond dau Sadwrn rhydd! Mae diffyg yn rhywle. Gyrrwyd llythyr cwrtais i’r gynghrair yn awgrymu hyn, a cafwyd ateb anghwrtais ganddynt- y teip o beth faswch chi yn ddisgwyl gan Donald Trump. Penderfynnwyd gadael hi yn fanna, rhag ofn fydda ni angen grant neu rywbeth yn y dyfodol.

Rhwng y ddau Sadwrn gwag, collodd Felin yn Aberffraw 1-3, oedd yn dolc i’r gobeithion am y gynghrair.

Felly ymlaen gyda’r ddeg gem, y gyntaf gydag ymweliad Gaerwen ar nos Fawrth canol Ebrill. Gem dda, gyda Ryan yn sgorio sgrîmar yn y drydydd funud o amser anafiadau, swings a rowndabowts, te! Gruff a Iwan Eds gafodd y ddwy gol arall yn y fuddugoliaeth o 3-2.

Ennill 1-0 oddicartref ym Mhentraeth y Sadwrn wedyn, mewn gem lle ddyla hi fod yn bum neu chwech gol. Chwarae da gan Felin on yn methu yn llwyr gorffen y job. Ond triphwynt gwerthfawr arall. Dydd Mawrth wedyn, a Pentraeth y gwrthwynebwyr unwaith eto (pwy sydd yn sortio y gems ‘ma?), a geshwch be? Daeth y glaw unwaith eto a bu rhaid gohirio y gem! Hon oedd gohiriad rhif 14 y tymor hyn! Record siwr o fod. Ond chwaraewyd y gem dau ddiwrnod wedyn, y cae wedi sychu yn syth, sydd yn gwneud i rhywun feddwl efallai fod y draen roddwyd i fewn yn gweithio o ryw fath wedi’r cwbwl. Roedd hon yn gem dda hefyd, gyda Felin yn ennill yn haeddiannol 2-1, ond Pentraeth yn dîm anodd iawn eu tori i lawr. Ifan Dafydd, y boi lleiaf ar y cae, gafodd y gyntaf yn dringo uwchben pawb a hedar nerthol i’r rhwyd o gic gornel. A Dan yr ail ar ol dod ymlaen fel eilydd. Os ydi Dan y dod ymlaen fel eilydd, mae o mwy neu lai yn garantîd o gael gôl (fel dywedodd un o pynters doeth oedd yn gwylio’r gêm).

Roedd crowd da yn y gem yma, fel sydd yn digwydd gyda gemau canol wythnol yn erbyn timau cyfagos ar noson cymharol braf, felly i bwy bynnag sydd yn trefnu gemau ar ran y gynghrair, fedrwch chi gadw hyn mewn golwg os gwelwch yn dda? Timau lawr yr A55- dydd Sadwrn canol gaeaf ddim problem. Ond ddechrau a diwedd tymor- gêms lleol plîs canol wythnos.

Mae hi’n edrych fel mai Prestatyn neu efallai Bodedern fydd yn ennill y gynghrair, ond gobaith da iawn i Felin orffen yn bedwerydd. Mae dwy gem yn dod i fyny yn erbyn Prestatyn ac er nad oes llawer o obaith eu dal, buasai eu curo ddwywaith yn bluen yn yr het.

Gyda’r gwanwyn wedi cyrraedd, roedd llwyth o gemau angen eu chwarae i orffen y tymor, a bu rhaid ehangu dyddiad cau y gynghrair i ddiwedd Mai er mwyn i’r clybiau gwblhau y tymor.

Nid oedd llawer o obaith i ennill y gynghrair, ond roedd y cymhelliad yna i orffen yn y pedwar uchaf. Ddim bod hynny mor bwysig a hynny (o gymharu gyda Uwch-gynghrair Lloegr), ond roedd o yn rhywbeth i anelu tuag ato.

Ennill a cholli pob yn ail oedd hi am weddill y tymor. Colli fu’r hanes oddicartref yng Nghronant, sef cartref Prestatyn Sports, gyda sgwad llai nag arfer wahanol resymau. Cafodd Dan ail gerdyn melyn a’i hel oddi ar y cae hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf, a toedd hynny ddim yn help. Ond Felin oedd y tim cryfaf yn yr ail hanner, yn ceisio dod yn ol i’r gem , ac ar ei hol hi 1-2. Ond daeth gol arall i’r tim cartref yn erbyn llif y chwarae, a dyna hi.- sgor terfynnol 3-1 i Brestatyn. Daeth newyddion fod Bodedern wedi colli yn annisgwyl, felly roedd hynny yn newyddion da i Brestatyn- roedd hi’n edrych fel mai nhw fydda’r pencampwyr mwy na thebyg, dim ond iddynt ennill eu gemau oedd yn weddill.

Curo Mochdre 4-0 yn Seilo yr wythnos wedyn, colli yn Allt Melyd 4-3, ennill 3-2 ym Mlaenau Ffestiniog ar ddydd Llun Gwyl y Banc mis Mai. Rhaid cyfaddef fod y tymor yn dragio braidd erbyn hyn, ond roedd tair gem arall i’w chwarae. Colli gartref yn annisgwyl, ac ychydig yn anlwcus i Lannefydd 0-2. Yna daeth twrn Prestatyn i ymweld a San Seilo. Dyma gyfle i ddangos i’r byd pa mor dda ydi Felin. Roedd Prestatyn, grwp o bobol neis iawn (ahem!), angen ennill i gipio’r gynghrair, a toedd Felin ddim am i hynny ddigwydd. Ac er colli Connor yn gynnar yn y gem gydag anaf cas i’w benglin, a gorfod mynd i’r ysbyty, chafodd yr ymwelwyr ddim o’r fraint o gipio’r teitl mewn steil, gyda Dylan yn sgorio gol wych oedd yn deilwng o ennill unrhyw gem, Felin yn eu trechu 2-1. Toedd Prestatyn ddim yn hapus, bechod! Hon oedd yr unig gem iddynt golli yn y gynghrair y tymor hyn. Ond yn debyg i be ddigwyddodd yn ein gem yn ei lle nhw, daeth newyddion fod Bodedern wedi colli, a rhoi y bencampwriaeth ar blat i Brestatyn, a bu hen ddathlu yn ystafell newid yr ymwelwyr. Ddaethon nhw ddim i’r Fic am fwyd wedyn chwaith, sydd ychydig yn anghwrtais. Fel oeddwn i yn dweud, hen fois iawn...

A daeth y gem olaf un, trip bws mini i Lannefydd. Nid oedd hi’n bosib mynd a bws llawer mwy yno- nid oes yr un lon call yn mynd yno. Ond lle braf, gyda chae a chyfleusterau da. Petai Felin yn ennill, Felin fasa’n gorffen yn bedwerydd. Gem gyfartal, ac Amlwch fasa bedwerydd, a buddugoliaeth i Lannefydd, yna nhw fasa’n bedwerydd. Reit dynn felly. Yn anffodus, gan fod y gem ym mhell i fewn i mis Mai, roedd llawer o’r hogiau wedi gwneud trfniadau i fynd ar wyliau a ballu, a sgwad ddigon tennau oedd ar gael. Aeth Al Em i’r gol, chwarae teg iddo, a bu rhaid i Euron a Dyl Bonc fod ar y fainc gyda Sgil- cyfanswm oed y tri yn 112! Felly roedd hi am fod yn anodd. Colli 4-0 gyda pethau wedi mynd ychydig yn fler rhwng Felin a’r reff erbyn y diwedd, hwnnw yn rhoi cardiau melyn un ar ol y llall, cyn gyrru Chris Brown oddi ar y cae am fynegi barn gonest. Felin yn gorffen y tymor yn y chweched safle felly, ac aeth pawb am beint i’r Hawk&Buckle gyda’r hogiau lleol, fel ddyla hi fod. A chafwyd stop neu ddau wedyn ar y ffordd adre cyn cyrraedd mewn pryd i weld Lerpwl a Real Madrid yn y ffeinal. Fasa Lerpwl wedi medru gwneud efo Al Em yn y gol.

Results 2017 - 2018

July 2017

FRIENDLY

Sat 15 July

Nefyn United

1 - 2

Y Felinheli

Match Report

FRIENDLY

Sat 22 July

Bow Street

3 - 1

Y Felinheli

Match Report

FRIENDLY

Wed 26 July

Llanllyfni

0 - 7

Y Felinheli

Match Report


August 2017

FRIENDLY

Thu 3 August

Talysarn Celts

1 - 1

Y Felinheli

Match Report

FRIENDLY

Sat 5 August

Mynydd Llandegai

4 - 3

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 12 August

Gaerwen

0 - 4

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Wed 16 August

Y Felinheli

8 - 1

Blaenau Ffestiniog

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 19 August

Y Felinheli

1 - 5

Penmaenmawr Phoenix

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Wed 23 August

Glan Conwy

2 - 1

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 26 August

Y Felinheli

3 - 2

Meliden

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Wed 30 August

Penmaenmawr Phoenix

1 - 2

Y Felinheli

Match Report


September 2017

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 9 September

Y Felinheli

7 - 0

Llanerchymedd

Match Report

FAW TROPHY ROUND 2

Sat 23 September

Y Felinheli

3 - 4

Llanystumdwy

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 30 September

Llanfairpwll

0 - 4

Y Felinheli

Match Report


October 2017

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 7 October

Y Felinheli

1 - 3

Glan Conwy

Match Report

TAKE STOCK VAN HIRE CUP ROUND 1

Sat 14 October

Meliden

2 - 1

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 28 October

Y Felinheli

11 - 0

Cemaes Bay

Match Report


November 2017

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 4 November

Llanerchymedd

0 - 5

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 11 November

Mochdre Sports

0 - 4

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 18 November

Amlwch Town

2 - 1

Y Felinheli

Match Report


December 2017

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 2 December

Y Felinheli

5 - 0

Llanfairpwll

Match Report


January 2018

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 6 January

Bodedern Athletic

4 - 0

Y Felinheli

Match Report


February 2018

MAWDDACH CHALLENGE CUP ROUND 1

Sat 17 February

Llanfairpwll

0 - 5

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 24 February

Y Felinheli

3 - 2

Bodedern Athletic

Match Report


March 2018

MAWDDACH CHALLENGE CUP ROUND 2

Sat 17 March

Y Felinheli

2 - 4

(2 - 2 FT)

Llandyrnog United

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 24 March

Y Felinheli

1 - 4

Amlwch Town

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 31 March

Y Felinheli

1 - 1

Aberffraw

Match Report


April 2018

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Tue 10 April

Aberffraw

3 - 1

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Tue 17 April

Y Felinheli

3 - 2

Gaerwen

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 21 April

Pentraeth

0 - 1

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Thu 26 April

Y Felinheli

2 - 1

Pentraeth

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 28 April

Prestatyn Sports

3 - 1

Y Felinheli

Match Report


May 2018

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Tue 1 May

Y Felinheli

4 - 0

Mochdre Sports

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 5 May

Meliden

4 - 3

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Mon 7 May

Blaenau Ffestiniog

2 - 3

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 12 May

Y Felinheli

0 - 2

Llannefydd

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 19 May

Y Felinheli

2 - 1

Prestatyn Sports

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 26 May

Llannefydd

4 - 0

Y Felinheli

Match Report

 

Player Stats 2017 - 2018

 
2017 - 2018
Total for Felin
  Games Goals Games Goals
Christopher Brown 23 4 63 8
Ryan Liam Cain 25 3 56 7
Carwyn Dafydd 16 4 205 101
Trystan Dafydd 9 0 N/A N/A
Euron Davies 1 0 78 19
Meredydd Huw Derbyshire 6 0 6 0
Iwan Edwards 27 4 79 11
Rhys Edwards 1 0 146 0
Aled Emyr 12 1 59 10
Ifan Emyr 25 1 224 33
Dion Griffiths 6 0 N/A N/A
James Matthew Rob Hatton 8 0 135 2
Aled Llyr Hughes 0 0 114 23
Daniel Robert Hughes 26 9 415 132
Harri Wyn Hughes 0 0 3 0
Martin Hughes 23 1 141 9
Matthew Hughes 14 0 253 9
Connor Patrick Japheth 27 1 87 5
Gruff John 30 23 245 172
Dylan Michael Waters Jones 22 3 48 3
Gwion Wynne Jones 4 0 74 2
Ifan Dafydd Jones 29 4 N/A N/A
Marc Wyn Jones 25 0 191 0
Rhodri Dafydd Jones 8 1 N/A N/A
Tom Harry Oliver 3 0 3 0
Dylan Meredydd Owen 1 0 343 19
Iwan Gwilym Owen 29 19 166 91
Sion Parry 0 0 N/A N/A
Jordan Anthony Pritchard 10 1 10 1
Ifan Llewelyn Roberts 5 1 5 1
Daniel Llyr Roberts 0 0 10 0
Gruffydd Parry Stead 3 0 3 0
Gwion Tegid 11 0 N/A N/A
Aled Williams 10 0 218 10

Player Awards 2017 - 2018

Top Scorer (Emyr 'Chay' Hughes Memorial Trophy) - Gruff John
Players' Player of the Season (Dylan Roberts Memorial Trophy) - Ryan Cain
Opponents' Player of the Season (Tlws Coffa Memorial Trophy) - Iwan Edwards
Supporters' Player of the Season (Gwynedd Rewinds Trophy) - Gruff John
Award for 400 matches - Daniel Hughes
Award for 200 matches - Carwyn Dafydd and Ifan Emyr