2016 - 2017 Season Review by Gwil John

Welsh only available ...

Cafwyd dyrchafiad i Ail adran Cynghrair y “Welsh Alliance” ar ol i Felin ennill cynghrair Gwynedd y tymor diwethaf. Nid oes gymaint a hynny o wahaniaeth mewn safon chwarae, ond mae pethau eraill sydd yn reit wahanol. I ddechrau, bydd dau leinsman swyddogol ym mhob gem (neu’r rhan fwyaf beth bynnag) sydd reit braf. Ond y trwbwl ydi fod rhaid talu am y fraint, ac i glwb bach fel Felin, golyga hyn fod angen codi hyd yn oed mwy o arian o rwla. Y disgwyl ydi y bydd cost y swyddogion, rhwng eu ffi a chostau teithio, yn tynnu tuag at ryw £100 y gem ar gyfartaledd, y clwb sydd yn chwarae gartref yn talu. Lot o bres tydi. A’r gwahaniaeth arall ydi fod rhaid teithio i laewr yr A55 i’r dwyrain pob hyn a hyn. Felly bydd costau teithio chydig y fwy efallai, er rhaid cyfaddef fod teithio i lefydd fel Prestatyn a Mochdre yn eithaf hawdd dyddiau yma.

Mae safon y cyfleusterau ym mhob cae yn gorfod bodlonni gofynion y gynghrair hefyd, a bu rhaid addasu yr ystafelloedd newid er mwyn cydymffurfio. Mae’r gyngrair wedi rhoi tan ddechrau’r flwyddyn newydd i Felin gwblhau rhoi ty bach newydd yn ystafell yr ymwelwyr yn ogystal ag ystafell y reff, a gyda thipyn o lwc, bydd grant ar gael os bydd y gwaith wedi ei gwblhau ar amser. Mae’r clwb hefyd yn ceisio bod chydig yn fwy proffesiynnol ei agwedd yn gyffredinol. Pethau bach fel cael gwell trfn ar bwyllgorau, a chodi arian, ac yn y blaen.

Ond y peth pwysicaf, wrth gwrs, ydi chwarae peldroed o safon, a cheisio gwneud cyfri go lew yn y gynghrair uwch. Ac o flaen torf dda iawn yng Nghaerwen canol Awst, cafwyd ddechrau da i’r tymor, yn lwyddo i guro y tim carfref o 3-1 gyda dwy gol hwyr. Roedd y gem wedi bod yn eithaf cytbwys, ond roedd Felin llawer cryfach yn y 10 munud olaf, gyda Dan ac Ifan Emyr yn cipio’r pwyntiau, ar ol i Gruff rhoi Felin ar y blaen yn y munudau cyntaf.

Tim arall gafodd ddyrchafiad o Gynghrair Gwynedd, Cemaes, oedd y Seilo ar y nos Fercher ganlynol. Torf dda yn dod i gefnogi Felin ac yn help mawr i dalu’r swyddogion ac i gadw’r blaidd o’r drws. Gol hwyr iawn gan Gruff, yn eiliadau olaf y gem, ennillodd bwynt i Felin 1-1. Toedd hogiau Cemaes ddim yn hapus wrth gwrs, yn taeru fod y reff wedi ychwannegu llawer gormod o amser anafiadau, ond pwynt gwerthfawr wedi ei achub i Felin.

Bu dwy gem gynghrair arall yn mis Awst, colli ym Mhenmaenmawr 1-3, ac ennill 3-1 yn Seilo yn erbyn yr hen elynion Llanfairpwll. Felly dechrau ddigon parchus i’r tymor newydd ar y cyfan. Ond rhwng y gemau cynghrair, cafwyd epic o gem yng Nghwpan Cymru gartref yn erbyn Llandyrnog, sydd yn adran gyntaf y “Welsh Alliance”. Dyma’r tro cyntaf ers blynyddoedd i Felin gymeryd rhan ym mhrif gwpan Cymru, ac mae cyrraedd y rownd gyntaf yn golygu bod modd ennill tipyn o arian. Ond y rownd rhagbrawf gyntaf oedd hon, ac roeddd angen ennill hon a dwy gem arall i ddechrau cael ein dwylo ar dipyn o bres y Gymdeithas Beldroed. Roedd hi’n 2-0 i Felin ar ol 7 munud, Martin a Iwan Bonc yn rhwydo. Ond erbyn hanner amser roedd yr ymwelwyr i fyny 2-4. Daeth gol Gruff a Felin o fewn un gol pum munud i fewn i’r ail hanner, cyn i Landyrnog cael penalti a sgorio pum munud wedyn, 3-5. Cafwyd chwarter awr olaf rhyfeddol i’r gem, gyda Felin yn sgorio dairgwaith. Dan, wedyn Callum Mac, newydd ddyfodiad y tymor yma, a Dan eto gyda munud yn weddill. Ac ymhell i fewn i’r amser anafiadau, cliriodd James Hitman oddiar y llinell, a Felin yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf ar ol ennill gem ryfeddol 6-5.

Ni fu mis Medi yn garedig iawn i Felin. Colli oddicartref yn Allt Melyd (Meliden ger Prestatyn) yng nghystadleuaeth Tlws Cymru. Ddim yn ddiwedd y byd gan fod Cwpan Cymru i ddod yr wythnos wedyn, gartref yn erbyn Bermo, yn yr ail rownd ragbrofol. Ac er mynd 0-2 ar ei hol hi yn yr ugain munud cyntaf, daeth goliau Dan a Ryan, sydd wedi dod i fyny o’r tim ieuenctid llynedd, a Felin yn ol i’r gem, 2-2. Dim ond un tim oedd ynddi yn yr ail hanner, ond yn groes i’r chwarae, Bermo aeth i fyny 2-3, a llwyddo i gau y gem i lawr yn y deg munud olaf i gipio’r siawns o chwarae yn rownd gyntaf Cwpan Cymru. Anlwcus ac anffodus iawn i glwb Felin, ond rhaid derbyn y petha ‘ma, toes.

Yn ol i’r bara menyn am ddwy gem olaf y mis. Colli 0-3 gartref i Mochdre, tim ddaeth i Seilo gyda plan ac yn sticio iddo fo, ac yn haeddu ennill, er nad oedd 0-3 yn wir adlewyrchiad o’r gem. Yna mewn gwynt cryf yng nghanol Sir Fon, ildio gol yn y funud olaf a gofod bodlonni ar bwynt yn unig, Llannerchymedd 2 - Felin 2. Edrych yn ol ar gem Cemaes mis Awst pan gipiodd Felin bwynt, ddigwyddodd y gwrthwyneb yn fama gyda Felin yn colli dau bwynt.

Ar hyn o bryd, amser ysgrifennu y llith hwn, roedd Felin wedi chwarae chwe gem yn y gynghrair, a dyma yr ystadegau:
gartref- ennill 1, cyfartal 1, colli1; oddicartref- ennill 1, cyfartal 1, colli 1

Ac ar hyn o bryd mae Felin yn gorwedd union hanner ffordd yn y tabl. Felly cychwyn ddigon parchus yn y gynghrair newydd, ond yn gobeithio gwella chydig cyn ddiwedd y flwyddyn.
Daeth y golgeidwad Marc Wyn yn ol i’r clwb ar ol tymor gyda Llanllyfni, ac ymunodd Callum McDonald o glwb Bontnewydd. Ac mae tri neu bedwar o hogiau oedd yn chwarae yn nhim ieuenctid Lenny y llynnedd wedi ymuno gyda’r tim cyntaf eleni, gyda Ryan a Dylan eisioes wedi cael profiad yn y gynghrair , a dwi’n siwr daw cyfle i’r lleill cyn bo hir. A rhaid rhoi croeso yn ol i Islwyn Bonc, sydd wedi ei benodi fel dirprwy-reolwr i Euron. Bydd brawdoliaeth reffs Gogledd Cymru yn falch o hynny, dwi’n siwr.

Welsh only available ...

Mae Ail Adran Cynghrair “Welsh Alliance” yn gynghrair cystadleuol. Roedd Cynghrair Gwynedd y llynedd yn reit anodd, ond mae camu i fyny un gris yn y pyramid Cymreig yn cymeryd tipyn o arfer. Mae safon y peldroed tipyn bach yn well, ac mae rhaid ymddwyn yn fwy proffesiynnol ar, ac oddi ar, y cae, fel y soniais yn rhifyn mis diwethaf. Hyd yn hyn, mae’r hogia wedi colli (5) mwy na mae nhw wedi ennill (4), rhywbeth sydd ddim wedi digwydd ers sawl tymor. Ond i chwarae o gwmpas gyda ystadegau, mae Felin wedi colli llai na hanner o’u gemau (roedd dwy gem yn gyfartal).

Beth bynnag, daeth tywydd gwlyb iawn ddechrau Hydref a gohirwyd gem gartref gyda Llanllyfni, a’r wythnos ganlynnol, nid oedd gem wedi ei drefnu gan fod gymaint o hogia’r tim ar ddyletswydd rhyngwladol. Roedd bar y Butchers yn Canton, cyn gem Cymru- Georgia, fel bod yn y Fic ddiwedd pnawn Sadwrn. Dim ond Al Wern ac Ifan Parciau oedd ar goll!

Ar ol mynd allan o ddwy gwpan Cymdeithas Beldroed Cymru, y prif gwpan a’r un i dimau llai, mae dal gobaith am rediad cwpan mewn dau gystadleuaeth cwpan Cynghrair y “Welsh Alliance”. Un ar gyfer clybiau yr ail adran, a’r llall ar gyfer y ddwy adran gyda’u gilydd. Ac yn yr un ail adran, “Cwpan Take Stock Van Hire”, y teithiodd Felin i lawr yr A55 i Benmaenmawr canol y mis. Chwi gofiwch fod Felin wedi colli yno yn y gynghrair ddechrau’r tymor, ac yn wir, Penmaenmawr sydd ar frig y gynghrair ar hyn o bryd wedi colli ddim ond un o’u gemau. Ond nid oedd hynny yn poeni dim ar yr hogia.

Roedd hi yn gem o safon, peldroed da gan y ddau dim, ac efallai fod 1-1 hanner amser yn ddigon teg, y ddau golgeidwad yn gwneud arbedion pwysig. Gruff yn sgorio i Felin gyda fflic bach “cheeky”, fel oedd o wedi bwriadu medda fo. Hmmmmm..!

Felin oedd y tim cryfa yn yr ail hanner a phan roddodd gol Iwan Bonc yr ymwelwyr ar y blaen jest ar ol awr o chwarae, roedd hi am fod yn anodd i Penmaenmawr ddod yn ol. Ond gydag eiliadau ar ol ar y cloc, rhoddodd y reff gic cornel i’r tim cartref, lle ddylai Felin fod wedi cael cic gosb cyn i’r bel groesi’r llinell. Ac wrth gwrs sgoriodd Penmaenmawr i fynd a’r gem i amser ychwannegol. Siom ac anhegwch braidd. Dim problem- peniad nerthol gan Ifan “score when he wants” Emyr ddiwedd hanner cyntaf amser ychwannegol, a chadw hi’n dynn yn yr ail hanner, a dyna Felin ymlaen i’r rownd nesaf. A chyfle i gael dial ar dim arall a gurodd Felin yn y gynghrair.

Profodd y gem fod Felin gyda’r gallu i guro rhywun yn y gynghrair ar eu diwrnod. Chwaraeodd yr hogia yn dda iawn i gael buddugoliaeth haeddiannol, ond mae rhaid codi i’r lefelau yma pob wythnos.

Llandudno Albion oedd yr ymwelwyr yr wythnos wedyn mewn gem gynghrair, tim arall sydd wedi cael dechrau da i’r tymor. Bu rhaid i Felin newid eu shorts du arferol i rai melyn, gan fod rheolau chydig yn pedantic y gynghrair yn dweud nad oedd dau dim yn cael chwarae mewn shorts yr un lliw. Toedd o ddim yn braf iawn ar lygaid, crys coch a shorts melyn. Ar ol hanner cyntaf boddhaol, gol cynnar Gruff yr unig sgor yn yr hanner, mae’n raid fod effaith seicolegol y lliwiau erchyll wedi cael effaith negyddol, gydag Albion yn cael llawer mwy o’r chwarae. Ac ar ol dod yn gyfartal gyda penalti, mi allai fod llawer gwaeth na 1-3 gyda 10 munud ar ol. Methodd Iwan gic o’r smotyn ar ol i goli Llandudno geisio rhoi Gruff yn yr ysbyty, a derbyn cerdyn melyn yn unig am ei drafferth. Diwrnod felly oedd hi braidd. Ac er i Gruff ddod a’r sgor i 2-3 yn yr eiliadau olaf, roedd hi’n fuddugoliaeth haeddiannol i’r ymwelwyr, a pherfformiad siomedig yn yr ail hanner gan Felin. Ar y shorts oedd y bai. A’r reff.

Sadwrn olaf Hydref a Sadwrn cyntaf Tachwedd cafwyd dwy gem gynghrair yn erbyn Gallt Melyd (Meliden) sydd ddim ymhell o Brestatyn. Dwn i ddim pwy sydd yn trefnu y gemau, ond toes ganddo ddim llawer o drefn yn perthyn i’w system, nagoes! Er yn nechrau’r chwedegau, roedd hyn yn digwydd yn yr hen Adran 1 dros gyfnod y Nadolig, pan fydda Spurs, er engraifft, yn chwarae West Ham ddwywaith mewn cwpwl o ddiwrnodau. Ond tydio ddim yn syniad da nacdi. Beth tasa rhywbeth wedi digwydd yn y gem gyntaf, a’r miri wedyn yn cael ei gario ymlaen yr wythnos wedyn i’r ail gem? Ta waeth….

Toedd gan Felin ddim golgeidwad cydnabyddiedig ar gael i’r gem oddicartref, felly roedd hi am fod yn anodd. Ac er i Dyl Bonc wneud job iawn rhwng y pyst, colli 0-2 fu’r hanes ar gae lle mae pobol y pentre yn dod a’u cwn i gachu. Ddim yn neis! Canlyniad siomedig.

Yna gem gyfartal yr wythnos ganlynnol yn Seilo, 2-2, gyda Ifan Emyr a Iwan Bonc yn sgorio. Efallai mai “own goal” oedd un Ifan, ond roedd o yn haeddu ei enwi fel sgoriwr- tydi’r gan yn dweud ei fod yn sgorio pan mae o isho! Un pwynt yn unig felly mewn dwy gem “cefn wrth gefn”.

Nid oedd gemau yr wythnos ganlynnol gan fod Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd. Colli dau bwynt gwerthfawr wnaeth Cymru hefyd, gyda Serbia yn dod yn gyfartal yn y munudau olaf. Unwaith eto roedd cynrychiolaeth cryf iawn o hogia Felin yn cefnogi eu gwlad, chwarae teg iddyn nhw.

Amlwch oedd y clwb nesaf i amddifadu Felin o dri phwynt, y gem yn gorffen 2-2 mewn mwd trwchus. Efallai na ddyla’r gem wedi fod wedi cael ei chwarae, ond ymlaen aeth hi. Sgoriodd Cal Mac o fewn 10 eiliad o ddechrau’r gem ac edrychai’r penderfyniad i fynd ymlaen efo’r gem yn un doeth! Ddyla Felin fod wedi bod yn gyffyrddus ar y blaen erbyn hanner amser, yn methu cyfle ar ol cyfle. Ond os oedd y cae yn drwm ac anodd o’r cychwyn, erbyn yr ail hanner nid oedd modd chwarae dim oedd yn debyg i beldroed. Mae’n beryg fod hyn yn siwtio Amlwch, gan iddynt fynd ar y blaen 1-2 cyn i Connor Japheth ddod a pwynt o leiaf i Felin gyda gol hwyr. Gorffennodd yr ymwelwyr y gem gyda naw chwaraewr yn unig ar y cae, roeddan nhw yn dim reit fudur (ym mhob ystyr y gair).

Gwyddai pawb yn Felin bryd hynny na fuasai gem yr wythnos ganlynnol yn cael ei chwarae yn Seilo. Gem gwpan “Take Stock Van Hire”, cwpan ar gyfer timau ail adran y gynghrair oedd hon. Os oes gem gwpan yn cael ei chanslo ddwywaith oherwydd cyflwr y cae, mae hi yn cael ei newid i gae y tim arall, dyna’r rheol, a ddigon teg ydio hefyd. Felly penderfynnwyd gofyn i gael chwarae y gem gartref oddicartref ar gae Mochdre, yn lle malu awyr. Nid oedd hyn yn bosib nes fod reff wedi cadarnhau nad oedd y cae yn ffit ar fore Sadwrn y gem- rheol arall y gynghrair sydd yn chydig o nonsens. Mae’r gynghrair yma braidd felly gyda’u rheolau, rhai yn gall ac eraill yn eitha boncyrs.

Eniwe, daeth Huw y reff draw fore Sadwrn ac i lawr yr A55 gafodd hogia Felin fynd ar ddiwrnod oer a braf. Toeddan nhw ddim yn siwr os oedd eu cae nhw yn iawn, ond erbyn ei weld, roedd o mewn gwell cyflwr na cae Seilo ar ei orau ddechrau’r tymor! Roedd hi yn braf cael chwarae ar gae call. Roedd hi yn gem dda, Felin yn mynd ar y blaen deirgwaith ac ar ei hol hi unwaith cyn i’r gem orffen yn gyfartal 4-4 ar ol 90 munud. Cal Mac yn sgorio’r ddwy gyntaf yn dilyn symudiadau bron iawn union yr un fath, Connor yn ennill y bel a creu lle i Iwan Bonc, gydag ynta yn croesi o’r dde, a Cal yn penio un a foli i’r llall. Dwy gol wych. Gruff sgoriodd y ddwy arall, un gyda hint o “own goal” a’r llall yn gandidet am gol y tymor, ochor yn ochor a dwy gol Callum.

Nid oedd neb eisiau amser ychwannegol- roedd hi yn oer iawn, yn enwedig ar ol i’r haul ddiflannu y tu ol i fynyddoedd Eryri. Ond ar ol hanner awr ddi-sgor, bu rhaid dioddef yr oerni am chwarter awr arall gan iddi fynd i benaltis. Roedd pawb wedi fferu erbyn hyn, hynny yw, rheini toedd ddim yn chwarae, ac erbyn hyn, ar ben popeth, roedd hi reit dywyll. Methodd Felin dwy, a sgoriodd Mochdre rhai nhw, a dyna ddiwedd cwpan Take Stock Van Hire am y tymor. Perfformiad da iawn ac anlwcus iawn i beidio landio yn y rownd pedwar olaf.

Pe bydda Felin yn chwarae fel hyn am weddill y tymor, fydda nhw ddim ymhell o frig y gynghrair. Ond mae rhaid neidio allan o’r rhigol gemau cyfartal yma, a dechrau ennill gemau. A mi fuasa cae di-fwd yn help hefyd.

Welsh only available ...

Ar ol chwarae mor dda yn y gwpan ym Mochdre, a cholli ar benaltis, roedd pawb yn y clwb yn llawn hyder yn mynd i fewn i fis Rhagfyr, gyda phedair gem oddicartref i ddod cyn y flwyddyn newydd. Tair o’r rheini yn gemau gynghrair lle ddyla Felin ennill pwyntiau.

Trip i fyny’r lon i Lanrug, sydd un adran uwchben Felin, yng Nghwpan Mawddach, sef cwpan cynghrair i’r ddwy adran. Hon oedd trip lleiaf y clwb, a be ddigwyddodd..? Cyrraedd yn hwyr! Traffic trwm ar Nant y Garth yn ol y son. Neu styc mewn cynhebrwn neu rwbath. Ond y canlyniad oedd nad oedd siawns i gynhesu yn iawn cyn y gem yn ol yr arfer. Efallai dyna pam mai colli 0-4 wnaeth Felin, ond roedd y sgor chydig yn gamarweiniol. I lawr 0-2, ond Felin oedd yn edrych y tim cryfa, ond wrth orfod mynd amdani i achub y gem, cafodd Llanrug ddwy gol hwyr. Fel yna mae gemau cwpan- tydi’r sgor ddim yn dweud yr holl stori. Felly dim cwpan i Felin y tymor yma felly- allan o pob un!

Gem gynghrair yng ngogledd Ynys Mon y Sadwrn wedyn, yng Ngemaes (lle da) a gyda’r sgor yn 2-2 a phawb o’r ddwy ochor yn eitha bodlon fod gem gyfartal yn ddigon teg, dyma Cemaes yn dwyn y pwyntiau gyda gol hwyr. Buasa Felin wedi medru gwneud yr union un peth, gem felly oedd hi, ond siom fawr oedd gorfod dod adra yn waglaw. Cemaes roi y bel yn eu rhwyd eu hunain; Iwan Bonc sgoriodd y llall.

Pentraeth oedd hi yr wythnos ganlynnol. Sut lwyddodd Felin i beidio ennill y gem ar ol llwyr ddominyddu, fedrai ddim ateb y cwestiwn. Sgoriodd y tim cartref ar ol chydig eiliadau o gychwyn y gem, ac roedd eu dwy gol arall yn eitha amheus. Ond ddim hynny ydi’r broblem- ddyla Felin fod wedi sgorio chwech, neu fwy i fod yn onest. Methu sgorio, dyna’r broblem. Iwan Eds a Ryan oedd y rhai a lwyddodd.

Nid oedd gem noswyl Nadolig, oedd efallai yn rhoi cyfle i’r sgwad ddod dros y sioc o’r ddwy ymweliad gwaglaw ag Ynys Mon. Wedyn trip ddigon anodd i Lanllyfni ar nos Galan, gyda chydig o newyddion da- roedd Rhys y golgeidwad yn ol ar ol anaf. Rhaid rhoi pob clod i Dylan Bonc am fod ddigon dewr i chwarae yn gol yn y dair gem olaf, oherwydd fod Marc Wyn yn cael triniaeth ar ei geg, a Rhys dal yn dod atoi hun ar ol trin ei lygadau. Ac er fydd Dyl byth cystal a’i dad rhwng y pyst, mae o wedi gwneud job iawn. Ond roedd hi’n neis cael golgeidwad iawn unwaith eto. A cafodd Dyl chwarae yn ei safle naturiol yng nghanol yr amddiffyn unwaith eto yn Llanllyfni. Roedd y tim cartref reit dda am yr ugain munud cyntaf, ond fel roedd Felin yn cryfhau, felly hefyd roedd Llanllyfni yn gwanhau. A toedd hi ddim syndod i Felin fynd ar y blaen gyda gol Cal Mac bum munud cyn hanner amser. Ac aeth hi’n 2-0 ar yr awr gyda Con Japh yn rhoi y bel yn daclus yn y rhwyd. Ac er i Lanllyfni gael un yn ol, sgoriodd Gruff yn syth wedyn o ffri cic, a roedd y tri-phwynt yn saff. A toedd Euron yn cynnig bar siocled “Crunchie” i’r leinsman ddim byd i wneud efo’r canlyniad chwaith. Gorffen y flwyddyn yn bositif felly.

A dechrau y flwyddyn newydd yr un mor bositif yr wythnos wedyn, yn curo tim oedd ar frig y gynghrair 4-0 yn y mwd yn Seilo. Cwyno am gyflwr y cae wnaeth Penmaenmawr ond roedd y cae yr un fath i bawb. Ac roedd Felin yn llwyr haeddu. Gruff yn cael dwy gol gynnar, a siwpar-sub Dan efo dwy hwyr ar ol dod i’r cae gyda 25 munud yn weddill (roedd o yn hwyr yn cyrraedd ac wedi cychwyn y gem fel eilydd- ddim byd i wneud efo methu penalti ym Mochdre). Dwy fuddugoliaeth a Felin yn dringo o waelodion y tabl tuag at safle mwy cyfforddus tua’r canol.

Gem gynnar ar gae plastic Llandudno wedyn, yn erbyn tim oedd drydydd yn y gynghrair ond efo gemau mewn llaw. Gem ddigon anodd, yn enwedig ar ol i Cal Mac adael y clwb i ymuno gyda Llanberis. A toedd colli Connor Japh ar ol 25 munud efo anaf cas iawn i’w wyned ddim yn help chwaith. Bu rhaid iddo fynd am yr ysbyty, oedd yn digwydd bod drws nesaf i’r stadiwm. Sgoriodd Llandudno Albion yn syth ar ol ymadawiad Con, ond daeth Felin yn gyfartal o fewn dau funud gyda Gruff yn sgorio o’r smotyn, penalti hollon jeniwein ar ol i’r bel daro llaw amddiffynnwr. Ond 2-1 i’r tim cartref oedd hi hanner amser gyda gol hwyr iawn cyn y chwiban. Ni ddaeth Dan allan i’r ail hanner oherwydd anaf i’w droed, a gyda chwater awr yn weddill, aeth hi’n 3-1 i Landudno. Perfformiad reit dda gan Felin ar y cyfan yn erbyn tim eithaf cryf sydd wedi gwneud y dwbwl yn erbyn Felin eleni. Tydi hynny heb ddigwydd i Felin ers sawl tymor. Pwy oedd y diwethaf i wneud hyn yn erbyn Felin? Atebion ar gerdyn post………..

Pedwerydd o’r gwaelod oedd Felin ddiwedd Ionawr, gyda hanner y gemau wedi eu chwarae. Ond edrych yn ol ar rhai gemau lle ddyla Felin fod wedi gwneud yn well, efallai nad yw’r safle yn deg iawn. Mae hi bendant yn gynghrair o safon uwch na’r Gwynedd, ond mae pawb i weld yn gallu curo eu gilydd, felly hyderaf y bydd Felin yn parhau i ddringo’r tabl a gorffen mewn safle ddigon parchus ddiwedd y tymor.

Gohiriwyd dwy gem oherwydd fod cae Seilo yn wlyb yn dilyn glaw mawr, neu oherwydd y diffyg traeniau sydd yng ngae Seilo yn fwy na thebyg. Mae angen gwneud gwaith ar y cae, mae pawb yn gwybod hynny. Cawn weld be ddigwyddith dros yr haf, ond mae hi’n job gostus. Ond fel mae petha ar hyn o bryd, gyda gemau yn cael eu gohirio yn llawer rhy aml, mae angen gwneud rhywbeth.

Yn ddigon rhyfedd, mae Mynydd Llandegai hefyd yn cael problemau gyda’u cae ac er iddynt drefnu chwarae eu gem cartref yn erbyn Felin yng ngaeau Treborth, cododd problem yswiriant neu rhywbeth- biwrocratiaeth y gynghrair unwaith eto. Ac felly chwaraewyd y gem yn Seilo! Y canlyniad oedd fod gem yr wythnos ganlynnol yn erbyn Pentraeth yn Seilo wedi gorfod cael ei gohirio ar nos Wener, roedd cymaint o fes ar y cae.

Ond yn ol i beldroed. Cychwynwyd y gem yn gynnar oherwydd fod Cymru yn chwarae rygbi yn erbyn Lloegr ddiwedd p’nawn, ac roedd pawb yn gytun y buasai yn beth reit dda i gael gweld Cymru yn curo yr hen elyn. Yn anffodus nid felly bu, a thra roedd hogia rygbi Cymru yn lluchio buddugoliaeth i ffwrdd, felly hefyd oedd hi efo hogia Felin yn erbyn Mynydd Llandegai. Pan sgoriodd Iwan Bonc y drydydd i fynd 3-1 ar y blaen ar yr awr, Gruff yn sgorio’r ddwy arall, roedd buddugoliaeth yn edrych yn dra tebygol. Yn wir cafwyd cyfleon wedyn i wneud y gem yn saff, cyn i Mynydd cael llygedyn o obaith gyda gol dda, ergyd o 20 medr gan Alwyn Roberts. Cafwyd cyfle wedyn i sgorio’r pedwerydd, ond gyda chwarter awr yn weddill, aeth hi’n 3-3, gol fler braidd. Ac yn wir, heblaw am safiad gwych Marc Wyn yn y munudau olaf, mi allasa hi fod wedi bod yn waeth. Dim ond pwynt yn hytrach na’r thri gafodd Felin.

Ac yn y gem arall a chwaraewyd bethefnos ynghynt, colli 1-0 ym Mochdre fu’r hanes. Anlwcus iawn yn y gem yma, gyda Felin yn llawer gwell tim na’r tim cartref. Ond chafwyd ddim help gan y swyddogion. Tydio ddim yn beth neis iawn i roi bai ar y reff ar ol colli, ond roedd hwn yn ddifrifol.

Gyda un Sadwrn ar ol ym mis Chwefror, roedd Felin wedi cael 5 gem gyfartal allan o’u 17 gem, y mwyaf o neb yn y gynghrair. Ac ar gyfartaledd wedi ennill 1 pwynt yn union y gem dros y tymor. Gwella wneith petha. Y canlyniadau a’r cae gobeithio!

Welsh only available ...

Gohirwyd pob un gem, pum gem, ers y gem ddiwethaf i gael ei chwarae ar Chwefror 11ed. A’r joc fawr ydi, cafwyd penwythnos bendigedig o braf i chwarae gem tuag at ddiwedd Mawrth, ond roedd pawb yn Nulyn yn cefnogi eu gwlad, a felly nid oedd gem wedi ei drefnu.

Felly ar nos Fercher gwlyb ac annifyr yn Llanfairpwll, cafodd yr hogia gem o’r diwedd ar ol bron i saith wythnos segur. Pethefnos gafodd oedd hogia Llanfair heb gem, felly roedd ganddyn fantais pendant. Roeddd hi yn 2-1 i’r tim cartref hanner amser, Gruff yn sgorio, gyda Felin yn chwarae i fewn i’r gwynt a glaw. Felin oedd yn trio chwarae peldroed yn yr ail hanner, ac ar yr awr, daeth Dan a’r gem yn gyfartal, 2-2. Methwyd cyfle ar ol cyfle cyn i Llanfair ennill cic gosb wrth ymyl y bocs ar un o’u hymweliadau prin i hanner Felin, ac o’r cic gosb, gorffennodd y bel yng ngefn y rhwyd, oddiar un o hogia Felin. Blerwch i ddweud y lleiaf, 3-2.

Felin yn mynd amdani, Euron y rheolwr yn dangos dychymyg gan newid ei ddau streicar am ddau arall. A gyda petha yn edrych yn addawol, cafwyd gwrthymosodiad prin arall gan y tim cartref, ac aeth hi’n 4-2. Wrth drio delio gyda’r ymosodiad, cafodd Marc Wyn y golgeidwad anaf cas, ond roedd pob un o’r eilyddion wedi’u defnyddio, felly bu rhaid iddo sefyll rhwng y pyst am y bum munud olaf. Ac wrth gwrs, cafwyd ymweliad, a gol arall, yn y funud olaf, 5-2. Erbyn hyn prin bod neb yn medru gweld pen arall y cae gan ei bod mor dywyll.

Tydi’r duwiau ddim yn garedig i Felin. Ac os oedd diffyg gemau yn y misoedd diwethaf, mae 10 gem mis Ebrill, sef gem pob tridiau i pob pwrpas. Yng nghanol y mis, bydd gem pob yn ail ddiwrnod! Ydi hyn yn deg?

Welsh only available ...

Roedd Ebrill yn hectic i ddweud y lleiaf, gyda deg gem i’w chwarae. Erbyn hyn, mae pawb isho cael gorffen y tymor, ac er fod cymaint o gemau mewn cyn lleied o amser yn hollol anheg, roedd pawb yn fodlon eu chwarae. Mae sgwad mawr gan Felin, gyda pum eilydd ym mhob gem yn ogystal a dau neu dri arall yn sbar fel arfer. Felly bu rhaid newid y tim pob gem er mwyn i eraill gael gorffwys. Er fod Felin yn beryglus o agos i’r ddau waelod yn y gynghrair, gyda phosibilrwydd o orfod disgyn yn ol i gynghrair Gwynedd, credai Euron y rheolwr y buasai dwy fuddugoliaeth yn sicrhau lle yn y gynghrair tymor nesaf. Cael rheini, a wedyn mwynhau gweddill y gemau oedd y bwriad.

Tair gem yn ddiweddarach, roedd y nod wedi ei chyfawni! Curo Blaenau ar eu tomen eu hunain, a churo Llanllyfni yn Seilo- “job done”. Bu rhaid gweithio yn galed i guro Blaenau gyda Ifan Emyr yn sgorio yn yr hanner cyntaf, a Iwan Eds yn selio’r fuddugoliaeth tuag at ddiwedd y gem. Roedd hi’n draed moch braidd yn y cwt panad- diffyg staff ar y diwrnod yn ol pob tebyg, a dim llefrith. Nes i Moyra benderfynnu nol peth i’r siop lawr lon. A chafodd hi ddim panad am ddim hyd yn oed am ei thrafferth!

Anlwcus i golli ym Mhrestatyn, ond cafwyd trip bws yno, a stop yng Nghonwy ar y ffordd adra. Chafodd neb eu harestio.

Roedd Llanllyfni yn dim cryf iawn ddechrau’r tymor, a roedd buddugoliaeth Felin yno nos calan yn un dda. Ond erbyn hyn, mae’r tim wedi chwalu, pawb wedi pwdu am wn i, a tydyn nhw ddim yn dda iawn dyddia yma. Rhaid rhoi clod iddynt am gael tim allan pob gem, a cael eu chwalu mwy aml na pheidio. Dim ond 3-1 oedd hi yn Seilo, ond y triphwynt oedd yn bwysig.

Gyda’r gemau yn peilio i fyny, efallai fod y “sgwad roteshyn” a’r blinder yn dechrau dweud. Colli y ddwy nesaf 5-2, un yn oerni Mynydd Llandegai a’r llall gartref yn erbyn Gaerwen. I lawr 0-5 ar lefel o 260m “uwch ben y mor” (oes cae uwch na hwn yn rhywle tybad?), edrychai hi’n ddu, a stid go iawn gan Mynydd ar y gweill, ond cafwyd tri eilydd ar y cae yr un pryd, a newidiodd y gem. Sgoriodd Mathew Fish o ffri cic o’i hanner ei hun (mae o yn gae bach)! Yna Ryan, sydd wedi cael tymor da, yn cael ail gol Felin. Ddyla fod dwy arall wedi cael eu sgorio hefyd, ond dyna fo. Tydio ddim yn le i fagu gwaed, ac efallai nad oedd hogiau Felin wedi arfer efo’r aer tenau.

Bu farw un o gymeriadau’r pentref a’r clwb yn ystod yr wythnos. Bu Bernie Ellis yn rhan o’r clwb o’r dechrau, ac yn ddyn sbwnj am flynyddoedd. Byddai chwaraewr oedd yn griddfan ar lawr ar ol tacl fudr yn neidio yn wyrthiol i’w draed wrth weld Bernie yn dod tuag ato efo’i fwced a sbwnj! Cafwyd munud o ddistawrwydd cyn dechrau gem Gaerwen er cof am foi iawn. Cydymdeimlwn gyda’r teulu i gyd. Dwn i ddim be fuasa Bernie wedi dweud am y perfformiad ar y cae wedyn, chwaith.

Gohirwyd y gem nesaf, y pedwerydd mewn saith diwrnod i fod, yn dilyn trychineb arall yn y pentref. Bu farw Karel, boi poblogaidd arall yn y pentref. Roedd o yn lys-dad i Danny, Martin, a Mathew Fish sydd yn chwarae i’r clwb. Cydymdeimlwn yn fawr gyda’ teulu i gyd. Cafwyd munud arall o ddistawrwydd cyn gem Blaenau.

Aeth Felin i Amlwch ar y nos Fercher , a chafwyd perfformiad fasa Bernie wedi bod yn falch ohono. Roedd cael brec bach , yn ogystal a geiriau “ysbrydoliedig” Euron, wedi gwneud y tric. Gwych o gem, yn ennill 2-0, gyda Ifan Em a Gruff yn sgorio.

Curo wedyn yn erbyn Blaenau yn Seilo, a Fish yn cael gol union yr un fath a be gafodd o yn erbyn Mynydd, o tua 40 medr. Toedd o ddim yn hanner ei hun y tro yma- mae cae Felin tipyn mwy! Er fod o yn gulach yn ddiweddar- rhaid oedd symud y lein i fewn i osgoi patch corslyd. Awgrymodd capen y clwb, sef Fish, ddyla bod tlws ddiwedd tymor i’r gol pella gafodd ei sgorio. Powld te!
Dwy gem i fynd cyn ddiwedd tymor, a Felin yn gorffen yn eitha cyffyrddus tua canol y tabl. Wedi cael eu berings yn y gynghrair newydd y tymor yma, ennill y bencampwriaeth tymor nesaf ydi’r bwriad. Ac mae rhaid gwneud rhywbeth am y gors hefyd.

League Table2016 - 2017

Welsh Alliance League Division 2

# Club W D L F A +/- Points
1 Llandudno Albion 20 1 5 90 36 54 61
2 Mynydd Llandegai 19 1 6 90 50 40 58
3 Prestatyn Sports 17 2 7 93 51 42 50
4 Mochdre Sports 15 3 8 52 37 15 48
5 Amlwch Town 13 5 8 54 39 15 44
6 Meliden 13 3 10 61 54 7 42
7 Penmaenmawr Phoenix 13 1 12 56 59 -3 40
8 Gaerwen 11 5 10 53 55 -2 38
9 Cemaes Bay 9 5 12 53 58 -5 32
10 Y Felinheli 8 5 13 47 57 -10 29
11 Llanfairpwll 8 1 17 40 77 -37 25
12 Pentraeth 6 2 18 37 73 -36 20
13 Llanerchymedd 5 4 17 35 67 -32 19
14 Blaenau Ffestiniog Amt 5 2 19 28 76 -48 17

-3 Prestatyn Sports - Poor Conduct

Results 2016 - 2017

August 2016

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 13 August

Gaerwen

1 - 3

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Tue 16 August

Y Felinheli

1 - 1

Cemaes Bay

Match Report

WELSH CUP QUALIFYING ROUND 1

Sat 20 August

Y Felinheli

6 - 5

Llandyrnog United

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Tue 23 August

Penmaenmawr Phoenix

3 - 1

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 27 August

Y Felinheli

3 - 1

Llanfairpwll

Match Report


September 2016

FAW TROPHY ROUND 2

Sat 3 September

Meliden

4 - 1

Y Felinheli

Match Report

WELSH CUP QUALIFYING ROUND 2

Sat 10 September

Y Felinheli

2 - 3

Barmouth and Dyffryn United

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 17 September

Y Felinheli

0 - 3

Mochdre Sports

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 24 September

Llanerchymedd

2 - 2

Y Felinheli

Match Report


October 2016

TAKE STOCK VAN HIRE CUP ROUND 1

Sat 15 October

Penmaenmawr Phoenix

2 - 3

(2 - 2 FT)

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 22 October

Y Felinheli

2 - 3

Llandudno Albion

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 29 October

Meliden

2 - 0

Y Felinheli

Match Report


November 2016

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 5 November

Y Felinheli

2 - 2

Meliden

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 19 November

Y Felinheli

2 - 2

Amlwch Town

Match Report

TAKE STOCK VAN HIRE CUP ROUND 2

Sat 26 November

Mochdre Sports

4 - 4

(4 - 4 FT)
Mochdre win 4-2 on penalties

Y Felinheli

Match Report


December 2016

MAWDDACH CHALLENGE CUP ROUND 1

Sat 3 December

Llanrug United

4 - 0

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 10 December

Cemaes Bay

3 - 2

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 17 December

Pentraeth

3 - 2

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 31 December

Llanllyfni

1 - 3

Y Felinheli

Match Report


January 2017

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 7 January

Y Felinheli

4 - 0

Penmaenmawr Phoenix

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 14 January

Llandudno Albion

3 - 1

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 28 January

Mochdre Sports

1 - 0

Y Felinheli

Match Report


February 2017

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 11 February

Mynydd Llandegai

3 - 3

Y Felinheli

Match Report


March 2017

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Wed 29 March

Llanfairpwll

5 - 2

Y Felinheli

Match Report


April 2017

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 1 April

Blaenau Ffestiniog

0 - 2

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 8 April

Prestatyn Sports

3 - 1

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Tue 11 April

Y Felinheli

3 - 1

Llanllyfni

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Thurs 13 April

Mynydd Llandegai

5 - 2

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 15 April

Y Felinheli

2 - 5

Gaerwen

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Wed 19 April

Amlwch Town

0 - 2

Y Felinheli

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 22 April

Y Felinheli

3 - 2

Blaenau Ffestiniog

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Tue 25 April

Y Felinheli

1 - 2

Llanerchymedd

Match Report

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Sat 29 April

Y Felinheli

3 - 2

Prestatyn Sports

Match Report


May 2017

WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2

Thurs 4 May

Y Felinheli

1 - 0

Pentraeth

Match Report

 

Player Stats 2016 - 2017

 
2016 - 2017
Total for Felin
  Games Goals Games Goals
Christopher Brown 14 0 40 4
Ryan Liam Cain 31 4 31 4
Carwyn Dafydd 0 0 189 97
Euron Davies 0 0 77 19
Iwan Edwards 27 3 52 7
Rhys Edwards 11 0 145 0
Aled Emyr 13 1 47 9
Ifan Emyr 33 6 199 32
Aled Wyn Griffith 10 0 152 17
James Matthew Rob Hatton 18 0 127 2
Aled Llyr Hughes 1 0 114 23
Daniel Robert Hughes 32 10 389 123
Harri Wyn Hughes 3 0 3 0
Martin Hughes 18 1 118 8
Matthew Hughes 28 2 231 9
Connor Patrick Japheth 24 2 60 4
Gruff John 31 21 215 149
Dylan Michael Waters Jones 26 0 26 0
Gwion Wynne Jones 13 0 70 2
Ifan Dafydd Jones 10 0 10 0
Marc Wyn Jones 18 0 166 0
Richard Callum MacDonald 15 8 15 8
Dylan Meredydd Owen 16 0 342 19
Iwan Gwilym Owen 32 10 137 72
Morgan James Lloyd Owen 1 0 1 0
Elgan Rhys Pugh 1 0 1 0
Daniel Llyr Roberts 10 0 10 0
Aled Williams 10 0 208 10

Player Awards 2016 - 2017

Top Scorer (Emyr 'Chay' Hughes Memorial Trophy) - Gruff John
Players' Player of the Season (Dylan Roberts Memorial Trophy) - Gruff John
Opponents' Player of the Season (Tlws Coffa Memorial Trophy) - Iwan Edwards
Supporters' Player of the Season (Gwynedd Rewinds Trophy) - Ifan Emyr
Award for 200 matches - Gruff John and Aled Williams